Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn Butetown, Caerdydd, wedi cael pwerau ychwanegol i atal digwyddiadau, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn achos o drywanu yn gynharach y mis hwn a phryderon parhaus am achosion o drais, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig.
Mae gorchymyn gwasgaru 48 awr, sydd wedi'i roi o dan Adran 35 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, ar waith o 18.00pm ddydd Gwener 29 Mawrth tan 18.00pm ddydd Sul 31 Mawrth 2024.
O dan Adran 35 o'r Ddeddf, gall swyddogion yr heddlu gyfarwyddo unrhyw un sy'n achosi aflonyddwch, codi ofn neu achosi trallod, neu'n debygol o'u hachosi, i adael yr ardal sydd wedi'i nodi ar y map.
Bydd gan y swyddogion hefyd y pŵer i atafaelu unrhyw eiddo y maent yn amau sy'n cael ei ddefnyddio i achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r gorchymyn yn fesur ataliol yn dilyn achos o drywanu a phryderon parhaus am achosion o drais, achosion o ddelio mewn cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig yn Butetown.
Dywedodd yr Arolygydd Abi Biddle, o Heddlu De Cymru:
"Mae'r gorchymyn gwasgaru ar waith am y 48 awr nesaf fel mesur ataliol.
"Bydd gennym bresenoldeb uwch yn Butetown ac ni fydd swyddogion yn ymatal rhag rhoi'r pwerau ychwanegol a roddwyd iddynt ar waith, er mwyn cadw'r gymuned yn ddiogel.
“Rydym yn annog rhieni a gwarcheidwaid i siarad â phobl ifanc am beidio ag ymgymryd â delio mewn cyffuriau. Mae'r heddlu hefyd yn gwirio pwy maent yn ymwneud â nhw, yr hyn maent yn ei wneud a lle maent.”
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r gorchymyn gwasgaru hwn o'r gwaith rydym yn ei gyflawni.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.