Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae siop ar stryd Clifton, Caerdydd wedi cau yn dilyn cwynion am werthu tybaco anghyfreithlon a chynwysyddion ocsid nitrus.
Nid yn unig y mae gan werthiant anghyfreithlon yr eitemau hynny oblygiadau iechyd ond maent hefyd yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddoldeb cysylltiedig.
Mae siop ar stryd Clifton, Caerdydd wedi cau yn dilyn cwynion am werthu tybaco anghyfreithlon a chynwysyddion ocsid nitrus.
Bydd Kermashan Mini Market ar gau am o leiaf dri mis.
Cafodd Hysbysiad Cau o dan Adran 76 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ei osod gan Lys Ynadon Caerdydd ddoe (Dydd Iau, 21 Mawrth) yn dilyn gwaith ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Heddlu De Cymru.
Dywedodd Gerallt Hughes, Arolygydd y Gymdogaeth ar gyfer y Rhath a Cathays: “Mae hwn yn gam arall yn ein cynllun parhaus i wella ansawdd bywyd preswylwyr Adamsdown. Ein dull partneriaeth ar gyfer yr ardal yw cael canlyniadau cadarnhaol wrth dargedu troseddoldeb ac mae gennym lawer mwy i'w gyflawni.”
Daeth yr achos i'r amlwg pan gafwyd cwynion bod y siop yn gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a chynwysyddion ocsid nitrus. Agorodd Safonau Masnach ymchwiliad a gwnaed pryniannau prawf.
Dangosodd y canlyniadau fod y siop yn gwerthu tybaco ffug, fêps anghyfreithlon, sigaréts di-doll wedi'u smyglo i'r DU ac Ocsid Nitrus. Roedd 50g o dybaco ‘Amber Leaf’ ffug yn cael ei werthu am gyn lleied â £5, pan mai £40 yw'r pris manwerthu ar gyfartaledd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned. Mae'r ffaith ei fod yn rhad ac yn hawdd ei gyflenwi yn ddeniadol i bobl ifanc ac eraill sydd ar incwm isel, ac mae'n dileu'r cymhelliant pris i ysmygwyr roi gorau iddo’. ‘Rwy'n falch o weld bod camau gweithredu yn cael eu cymryd. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu'r canlyniadau os byddant yn dewis delio â'r cynhyrchion anghyfreithlon hyn.”
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon i roi gwybod amdano, yn ddienw, yn https://noifs-nobutts.co.uk/cy/rhoi-gwybod/