Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd William Bush, 23 oed, ei ganfod ag anafiadau angheuol mewn cyfeiriad ar Stryd y Capel ychydig ar ôl 11:30am ddydd Sul, 24 Rhagfyr, 2023.
Cafodd Dylan Thomas, 23 oed, o Landaf, ei gyhuddo o lofruddiaeth ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr 2023, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos yn y llys.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant, o Heddlu De Cymru:
"Fel rhan o'r gwaith ymchwilio parhaus, mae nifer o dystion wedi cael eu hadnabod ac mae'r Tîm Ymchwilio wedi siarad â nhw'n barod.
"Fodd bynnag, rwy'n apelio am unrhyw un a oedd ar Stryd y Capel neu'n agos at yr heol rhwng y Stryd Fawr a maes parcio Talu ac Arddangos Stryd Fawr Llandaf rhwng 11:15am a 11:45 ar Noswyl Nadolig, nad ydynt eto wedi siarad â'r heddlu, i gysylltu â ni.
"O'r Teledu Cylch Cyfyng, mae'n ymddangos bod sawl person yn y cyffiniau nad ydynt eto wedi cael eu hadnabod ac nad ydym wedi siarad â nhw, ac felly rwy'n gofyn i'r unigolion hynny gysylltu â ni. Hyd yn oed os ydych yn teimlo fel na welsoch ac na chlywsoch chi unrhyw beth, cysylltwch â ni, fel bod modd i ni eich dileu fel tyst yn yr ymchwiliad hwn."
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar ddyfeisiau megis ffonau symudol, camerâu teledu cylch cyfyng, clychau drws neu gamerâu dashfwrdd drwy'r ddolen hon https://mipp.police.uk/operation/62SWP23B82-PO1
Fel arall, gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu 2300436163.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.