Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth sydyn ac anesboniadwy Stephen Bulpin a fu farw ger Clwb Rygbi Llandaf.
Cynhaliwyd post-mortem ac mae archwiliadau pellach yn mynd rhagddynt i ganfod achos y farwolaeth.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i farwolaeth sydyn ac anesboniadwy Stephen Bulpin a fu farw ger Clwb Rygbi Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin, Caerdydd.
Daethpwyd o hyd i Mr Bulpin, 65 oed o'r Tyllgoed, Caerdydd, ar y llwybr ger y clwb rygbi am tua 3am fore Llun, 18 Mawrth.
Cynhaliwyd post-mortem ac mae archwiliadau pellach yn mynd rhagddynt i ganfod achos y farwolaeth.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru:
"Nid yw'r ymchwiliadau cychwynnol wedi datgelu na chadarnhau unrhyw achos amlwg o'i farwolaeth. Fodd bynnag, mae'r ymholiadau helaeth yn parhau i sefydlu union achos ac amgylchiadau marwolaeth Mr Bulpin.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd a wnaeth ymateb i'n hapêl am wybodaeth drwy gyflwyno gwybodaeth ac enghreifftiau posibl o'i weld sydd wedi bod o gymorth enfawr i ni.
"Mae cordonau'r heddlu bellach wedi cael eu codi ac rydym yn diolch i'r gymuned am eu cymorth a'u dealltwriaeth wrth i ni gynnal ymholiadau yn yr ardal hon."
Mae teulu Mr Bulpin yn parhau i gael eu diweddaru am yr ymchwiliad.
Gofynnir i unrhyw un a all fod wedi gweld Stephen neu fod mewn cysylltiad ag ef rhwng 4pm ddydd Sul, 17 Mawrth a 3am ddydd Llun, 18 Mawrth, i gysylltu â ni.
Mae'r ditectifs yn awyddus i siarad yn benodol ag unrhyw un a allai fod wedi cwrdd â Stephen neu fod mewn cysylltiad ag ef ger Cathedral Close yn ystod oriau mân fore Llun, 18 Mawrth.
Os gallwch helpu, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400089199.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.