Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio am dystion a deunydd fideo.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 6.25pm nos Iau, 29 Chwefror yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd a oedd yn cynnwys Ford Fiesta brown a cherddwr gwrywaidd 13 oed.
Mae'r bachgen yn yr ysbyty o hyd gydag anafiadau sy'n peryglu bywyd.
Ymddangosodd Harley Whiteman, 19 oed o Hirwaun, gerbron Llys Ynadon Caerdydd heddiw (ddydd Sadwrn, 2 Mawrth), wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac am fethu â darparu sampl i'w ddadansoddi.
Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad pellach yn Llys y Goron Merthyr fis nesaf.
Mae'r ddau ddyn arall a gafodd eu harestio yn y fan a'r lle wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Mae swyddogion o'r Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol yn apelio am unrhyw dystion neu ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd o'r Ford Fiesta brown yn cael ei yrru o amgylch ardal Hirwaun cyn y gwrthdrawiad.
Os gallwch helpu, cysylltwch â ni drwy un o'r ffyrdd canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400069631.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.