Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cychwynnodd Heddlu De Cymru ar ymchwiliad yn 2019 pan fu dioddefwr yn ddewr a rhoi gwybod iddo gael ei dreisio gan John Charles Webb.
Cafodd Webb, sydd bellach yn 70 oed, ei arestio yn ei gyfeiriad cartref yng Nghastell-nedd ac, o ganlyniad i ymholiadau, cafodd dau ddioddefwr arall eu hadnabod a gwnaethant ddarparu datganiadau.
Roedd y tri dioddefwr, dau ddyn ac un ferch, o dan 18 oed ar adeg yr ymosodiadau rhywiol a ddigwyddodd yn y 1990au tra roedd Webb yn byw yng Nghaerdydd.
Cafodd Webb ei gyhuddo ac aeth i Lys y Goron Caerdydd ym mis Rhagfyr 2023
Fe'i cafwyd yn euog o bob un o'r 21 o achosion rhywiol gan gynnwys tri achos o dreisio, pump ymosodiad anweddus, a saith achos o ymosodiad anweddus ar ddyn.
Cafodd Webb ei ddedfrydu yn yr un llys ddydd Gwener, 8 Mawrth, i 24 mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Jenna Hargraves: “Mae gweithredoedd Webb wedi cael effaith emosiynol enfawr ar y tri dioddefwr.
“I un ohonynt, arweiniodd ei fywyd at droseddoldeb am ei fod wedi ei chael hi'n anodd iawn ymdopi â'r hyn a ddigwyddodd. Disgrifiodd dioddefwr arall Webb fel dyn treisgar.
"Ond diolch i'w ddewrder ac ymchwiliad trylwyr, cafodd ei ddwyn gerbron y llys.
“Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
“Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol a byddem yn annog pob dioddefwr; ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
“Os oes gan unrhyw un ragor o wybodaeth am hyn neu am faterion tebyg, ac nad ydynt wedi siarad â'r heddlu, cysylltwch â ni.”
-
Mae gennym adnodd rhoi gwybod am Drais ac Ymosodiadau Rhywiol ar ein gwefan. Yma gallwch roi gwybod am rywbeth sydd naill wedi digwydd i chi, neu rywun arall. Gallwch roi gwybod yn ddienw, heb ofod roi eich manylion. Ni fyddwn yn eich beirniadu; byddwn yn eich trin â pharch, a byddwn yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant chi yn gyntaf bob amser.
Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain yn eu profiadau - a bod cymorth ar gael iddynt, naill ai drwy roi gwybod yn uniongyrchol i ni, neu drwy grwpiau cymorth, asiantaethau ac elusennau niferus.
Gall unrhyw un gyfeirio eu hunain at y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, hyd yn oed os nad ydych am siarad â'r heddlu. Mae'r gwasanaeth yn darparu lle diogel a gofal dynodedig i bawb sydd wedi cael eu camdrin yn rhywiol.
Gallwch ddefnyddio'r adnodd adrodd a gweld rhestr o sefydliadau cymorth yma: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/sut-i-riportio-treisio-ymosodiad-rhywiol-troseddau-rhywiol-eraill/
Mae gan bob un o'n tudalennau fotwm i adael y wefan ar yr ochr dde os bydd angen i chi ddefnyddio hwn ar unrhyw adeg. https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/cuddiwch-eich-ymweliad/sut-i-guddior-ymweliad-ar-dudalen-hon-och-hanes-ar-y-we/
Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
E-bost [email protected]
101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.