Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
James Dean Connors, o'r Sblot, oedd prif aelod Grŵp Troseddau Cyfundrefnol a oedd yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Daethpwyd o hyd i'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol pan gafwyd hyd i ffôn symudol ar safle gwrthdrawiad traffig ffyrdd a oedd yn cynnwys beic oddi ar y ffordd yn Llaneirwg, Caerdydd, ym mis Mehefin 2018.
Roedd y ffôn, a gafodd ei roi i'r heddlu gan aelod o'r cyhoedd, yn cynnwys negeseuon yn ymwneud â delio cyffuriau a ffotograffau o floc o bowdwr gwyn, y credir mai cilo o gocên ydoedd.
Amcangyfrifwyd y gallai'r cocên, a oedd yn cynnwys symbol cylchoedd Audi ac wedi'i osod ar blât cinio, fod yn werth £100,000 ar y stryd pe bai'n cael ei werthu am £100 y gram am ei fod yn ymddangos yn bur iawn.
Yn dilyn ymholiadau, canfuwyd bod y lluniau wedi cael eu tynnu mewn fflat ar Greenway Road a chafodd Grŵp Troseddau Cyfundrefnol posibl ei nodi.
Ym mis Rhagfyr 2018, cynhaliwyd 10 gwarant chwilio yng Nghaerdydd a arweiniodd at adfer cyffuriau a oedd yn werth oddeutu £40,000, miloedd o bunnoedd mewn arian parod a sawl arf, gan gynnwys machetes ac arfau tanio ffug.
Aeth Connors, 27 oed, ar ffo ar ôl cael ei gyhuddo ond cafodd ei arestio ddiwedd 2023.
Plediodd yn euog i'r cyhuddiadau o ymwneud â chyflenwi cocên, peidio ag ildio i'r ddalfa a chynllwynio i gyflenwi cocên.
Roedd y cyhuddiad olaf yn ymwneud ag ymchwiliad ar wahân gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru.
Cafodd ei ddedfrydu i gyfanswm o 12 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ar 16 Chwefror 2024.
Mae gan Heddlu De Cymru ddull gweithredu dim goddefgarwch mewn perthynas â delio mewn cyffuriau, a dim ond un enghraifft yw'r achos hwn o'r ffordd rydym yn mynd i'r afael â phryderon yn y gymuned.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu â ni.
Anogir unrhyw un sydd ag amheuon neu wybodaeth am achosion o ddelio mewn cyffuriau anghyfreithlon i gysylltu â ni.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.