Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed ynghyd â dedfrydau carchar wedi'u gohirio yn dilyn ymosodiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod gêm ddarbi De Cymru y tymor diwethaf.
Roedd y dioddefwr yn un o gefnogwyr tîm pêl-droed Dinas Abertawe, a oedd yn eistedd gyda grŵp o ffrindiau yn eisteddle'r tîm cartref ymhlith cefnogwyr y Dinas Caerdydd, ar 1 Ebrill 2023.
Pan sgoriodd Dinas Abertawe'r gôl fuddugol yn hwyr yn yr amser am anafiadau, neidiodd y dioddefwr i fyny yn reddfol i ddathlu ac ymosodwyd arno o ganlyniad i hyn.
Plediodd Steven Jones, 33 oed o Aberpennar, a Cory Jones, 28 oed o Abercynon, yn euog am ymosod ac affräe, a chafodd y ddau eu dedfrydu ddoe (ddydd Mawrth, 13 Mawrth) yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd y brodyr eu hadnabod o ddeunydd Teledu Cylch Cyfyng a deunydd fideo oddi ar ffôn symudol, a oedd yn dangos y ddau'n dyrnu a chicio.
Ymyrrodd stiwardiaid y stadiwm ynghyd â chefnogwyr eraill er mwyn atal yr ymosodiad ac amddiffyn y dioddefwr a oedd wedi cael ei wthio i lawr tua 10 gris i mewn i res o seddi, cyn cael ei hebrwng allan o'r stadiwm.
Cafodd y dyn 23 oed o Gastell-nedd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle cafodd ei drin am doriadau a chleisiau ar ei ben, ei gefn, a'i dorso.
Roedd deunydd fideo o'r dorf yn dangos Jones a Jones yn chwerthin yn yr ardal ymgynnull yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd Swyddog Pêl-droed Penodedig Dinas Caerdydd, PC Simon Chivers, o Heddlu De Cymru:
“Roedd yn ymddygiad gwarthus ac nid oes amheuaeth y bydd y rhan fwyaf o gefnogwyr Dinas Caerdydd, sy'n ymddwyn yn dda ac yn angerddol am eu clwb, wedi eu synnu gan y digwyddiad hwn.
“O ystyried nifer yr ergydion a chiciau a gafodd y dioddefwr i'w ben, rydym yn rhyfeddu nad arweiniodd yr ymosodiad hwn at anaf mwy difrifol.
“Lle ceir tystiolaeth o anrhefn neu drais yn gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio erlyn y rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
“Ni chaiff y math hwn o ymddygiad ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd.”
Ynghyd â'r Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed, cafodd Steven Jones ddedfryd o 12 mis yn y carchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a chafodd Cory Jones ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Cafodd Cory Jones ei wneud yn destun gorchymyn ymatal rhag yfed alcohol am 120 diwrnod a rhaid iddo gwblhau 180 awr o waith di-dâl.
Cafodd Steven Jones ei wneud yn destun gorchymyn ymatal rhag yfed alcohol am 120 diwrnod, a rhaid iddo gwblhau 120 awr o waith di-dâl.
Rhaid i'r ddau ohonynt dalu iawndal o £500 i'r dioddefwr.