Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Cafodd Roger Stapleton, 75 oed, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 8 Mawrth, am gyflawni 15 trosedd rywiol dros gyfnod o 13 o flynyddoedd, a oedd yn cynnwys:
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Julia Page: "Bu Roger Stapleton yn cam-drin ei ddioddefwr dros gyfnod sylweddol o amser, gan ddechrau'r cam-drin pan roedd y dioddefwr ond yn 5 oed.
"Cymerodd fantais pan roedd ei ddioddefwr ar ei fwyaf bregus o safbwynt oedran, a defnyddiodd hyn i'w dominyddu er ei les ei hun."
"Hoffwn ganmol y dioddefwr yn yr achos hwn am ei amynedd, dewrder a gwroldeb tra roedd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen. Gall yr ymchwiliadau hyn gymryd amser, ond rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddo."
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) a bydd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes. Cafodd hefyd orchymyn atal ei osod yn erbyn ei ddioddefwr.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Laura Jones: "Rydym yn ymchwilio i bob adroddiad am drais rhywiol, waeth pryd y digwyddodd y drosedd, ac yn rhoi anghenion y dioddefwr wrth wraidd ein hymchwiliadau.
"Byddem yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol a heb roi gwybod amdano, am ba reswm bynnag, i gysylltu â ni. Byddwn yn gwrando arnoch.”
Gofynnwch am help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Fyddwn ni ddim yn eich barnu: byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.