Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Kaylan Hippsley y bachgen 13 oed o Hirwaun a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ar Ffordd Aberhonddu, Hirwaun ddydd Iau, 29 Chwefror wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
"Roedd Kaylan yn berson drygionus iawn. Roedd ganddo wên ddireidus bob amser a gyda'i ffraethineb gallai ddianc rhag unrhyw beth.
"Roedd yn olygus iawn, yn union fel ei Dad.
"Roedd Kaylan yn chwaraewr rygbi a phêl-droed talentog. Roedd wrth ei fodd yn chwarae gemau ar-lein.
"Roedd yn fachgen deallus a oedd yn ddisgybl annwyl iawn yn Ysgol Gymunedol Aberdâr.
"Roedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i deulu ac roedd ganddo grŵp arbennig o ffrindiau.
"Rydym wedi ein llorio o golli Kaylan mor ifanc, yn ddim ond 13 oed gyda'i fywyd cyfan o'i flaen
"Rydym fel teulu am ddiolch i'r rhai a helpodd yn y digwyddiad: y parafeddygon, aelodau o'r cyhoedd, ffrindiau Kaylan, y gwasanaethau brys a'r heddlu a wnaeth bopeth o fewn eu gallu i achub bywyd Kaylan. O waelod ein calonnau, rydym yn ddiolchgar.
"Diolchwn hefyd i gymuned leol Hirwaun sydd wedi ein cefnogi o bell gan anfon eu gweddïau a'u cymorth. Rydym yn ddiolchgar iawn.
"Hoffem ddiolch yn arbennig i'r nyrsys a'r meddygon yn Adran Gofal Critigol Pediatrig Ysbyty Athrofaol Cymru am ofalu am Kaylan a chefnogi ein teulu ar adeg mor ofnadwy. Roeddent mor ofalgar a pharchus a byddwn yn ddiolchgar am byth am eu cymorth.
"Kaylan, roedd dy fywyd yn fendith a dy atgof yn drysor. Rydym yn dy garu y tu hwnt i eiriau ac yn dy golli gymaint.
"Hyd nes y byddwn yn cwrdd eto."