Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflwynwyd y ddedfryd derfynol ar gyfer ymgyrch llinellau cyffuriau ‘Goldie’ yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, 15 Mawrth.
Roedd Ymgyrch 'Goldie' yn ymchwiliad cymhleth i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol llinellau cyffuriau ‘Goldie’. Roedd llinell ‘Goldie’ yn cael ei rheoli o Lundain o 19 Hydref 2018 a 23 Mai 2019, a gwnaeth diamorffin (heroin) ansawdd uchel a chrac cocên gyda'r ddau'n gwneud cyfanswm o 3.29 cilogram lifo drwy ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod sawl cam gorfodi ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Llundain, arestiwyd naw unigolyn ac, yn dilyn hynny, cawsant eu canfod yn euog o droseddau Masnachu mewn Cyffuriau a Deddf Enillion Troseddau.
Pennaeth y llinell cyffuriau oedd Caine Morris-McGibbon (neu ‘Goldie’), a oedd yn rheoli'r ‘llinell’ o Dde Llundain, gyda rhwydwaith o unigolion yn chwarae rôl hanfodol o ran hwyluso'r broses o gyflenwi cyffuriau i mewn i Ben-y-bont ar Ogwr neu alluogi cyfrifon banc er mwyn gallu talu'r enillion i mewn iddynt.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Richard Gregory: “Rydym wedi tarfu ar gang mawr sy'n delio mewn cyffuriau trwy linellau cyffuriau, gan garcharu 9 unigolyn a oedd yn rhan o gynllwyn cyfundrefnol sylweddol ar ôl ymgyrch dros bum mlynedd sydd wedi tynnu nifer mawr o bobl beryglus a sylweddau peryglus oddi ar y strydoedd”.
“Gwelodd yr achos swyddogion yn mynd trwy swm helaeth o ddata cyfryngol, dadansoddi ffonau, system adnabod rhifau ceir yn awtomatig ynghyd â phrosesau gorfodi fforensig a thactegol yr oedd angen eu troslunio er mwyn rhoi achos manwl o erlyn gerbron.”
“Byddwn yn parhau i fynd ati i dargedu'r rhai rydym yn credu eu bod yn ymhèl â chyffuriau ac yn defnyddio'r pwerau sydd gennym i wneud yn siŵr y caiff eu gweithgareddau eu tarfu arnynt.
Dyma'r naw a oedd ynghlwm:
|
|
|
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Adam Yeates: “Mae troseddau llinellau cyffuriau yn parhau i fod yn broblem sy'n golygu camfanteisio ar unigolion agored i niwed yn aml er mwyn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon sy'n peri niwed i'n cymunedau.
“Mae'r ddedfryd hon yn anfon neges glir y bydd unigolion sy'n cymryd rhan wrth gyflenwi a chludo cyffuriau niweidiol i'n cymunedau yn dod o flaen eu gwell ac ymdrinnir yn gadarn â nhw.”