Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rosa Parks. Frieda Kahlo. Queen Elizabeth II. Emma Watson. Taylor Swift. Jess Fishlock. Betty Campbell.
Mae'r rhestr bosibl o fenywod enwog ysbrydoledig yn ddiddiwedd, ond i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024, roeddem am wybod pwy o fewn Tîm SWP ysbrydolodd ein staff a'n swyddogion, a pham.
O arweinyddiaeth gref a chymhellol, i gyflawni mewn rolau sy'n cael eu dominyddu gan ddynion, goresgyn adfyd a mynd y filltir ychwanegol, dyma beth oedd gan ein staff a'n swyddogion i'w ddweud.
"Rwyf wedi cydweithio'n rheolaidd â Leeann ar brosiectau'r adran gysylltiadau a oedd yn ymwneud â diogelu'r cyhoedd, ac wedi cael fy ysbrydoli gan ei hangerdd i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed, i roi'r dioddefwr yn gyntaf, ac i ddwyn troseddwyr gerbron y llys.
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, cefais wybod bod Leeann wedi mabwysiadu merch fach, ond cefais fy ysbrydoli'n fwy eto pan gefais y fraint o glywed am ei phrofiad yn mabwysiadu mewn sesiwn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI).
"Tra roedd Leeann yn amlwg yn falch iawn o gael bod yn fam, bu'r broses yn un hir a heriol, ac nid oedd bob amser wedi teimlo ei bod yn cael ei chefnogi'n llawn yn y gweithlu. Er hynny, yn hytrach na chaniatáu i hyn ei digalonni, defnyddiodd ei phrofiad er mwyn gwneud pethau'n well i eraill drwy weithio gydag adrannau amrywiol i godi ymwybyddiaeth ac i wella'r polisi, y weithdrefn, a'r ymarfer.
"Mae Leeann hefyd wedi bod o gymorth personol i gydweithwyr sydd ar daith i ddod yn rhiant, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol iddynt, ac mae hi yng nghanol y broses o sefydlu rhwydwaith mabwysiadu. Mae hyn yn adrodd cyfrolau am y math o berson yw Leeann – cadarnhaol, gofalgar, ysbrydoledig."
"Ymunodd Michelle â HDC fel merch ifanc 18 oed, a thrwy gydol ei chyfnod yn gwasanaethu – lle bu'n cyflawni cymaint o rolau fel ymgyrchoedd, y drefn gyhoeddus, gwrthderfysgaeth, diogelu neu ymchwiliadau – mae hi bob amser wedi gweithio'n anhygoel o galed i wasanaethu cymunedau De Cymru.
"Mae Michelle wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i mi ac Owen, Rhys a Lloyd ein tri mab, a gwn iddi fod yn gymorth ac ysbrydoliaeth i gymaint o gydweithwyr yn HDC."
--
"Yr uwch-arolygydd Michelle Conquer yw fy ysbrydoliaeth, ac yn aml iawn fy nghymhelliant.
"Yn ogystal â bod yn uwch-arolygydd gweithredol rhanbarthol, mae hi'n gomander arfau tanio a chomander y drefn gyhoeddus strategol.
"Mae ganddi swydd ddydd brysur a heriol iawn, lle mae'n rhaid iddi reoli Ymgyrchoedd yr Uned Reoli Sylfaenol mewn Uned sy'n anferth ac yn heriol, a chaiff yn aml ei thynnu at amrywiaeth o ddigwyddiadau ym mhob rhan o'r heddlu oherwydd ei holl sgiliau a'i galluoedd.
"Mae Michelle yn rhywun rwy'n ystyried yn eithriadol o gymwys yn yr hyn mae hi'n ei wneud. Yr hyn rwyf yn ei edmygu fwyaf yw'r ffaith ei bod hi'n gwneud hyn oll fel mam i dri bachgen.
"Mae'n treulio ei hamser rhydd, sy'n aml yn brin, yn mynd â nhw i ddigwyddiadau chwaraeon amrywiol, a rhywsut yn llwyddo i reoli bywyd cartref llawn her ochr yn ochr â swydd ddydd brysur iawn.
"Mae'n cyflawni hyn oll yn ogystal â gwneud amser ar gyfer y rheini mae hi'n eu harwain a'r rhai o'i hamgylch.
"Mae hi'n ysbrydoliaeth i fenywod eraill sydd eisiau arwain yn HDC, a magu teulu hefyd."
"Mae Emma yn arweinydd ac yn fodel rôl ysbrydoledig i ddynion a menywod ar draws yr heddlu. Fel comander trefn gyhoeddus a chomander diogelwch y cyhoedd (POPS) Arian ac Efydd, ymddiriedwyd ynddi i blismona rhai o'r digwyddiadau proffil uchaf yng Nghymru yn y 12 mis diwethaf.
"Mae hi'n ysbrydoliaeth i eraill mewn maes sy'n draddodiadol wedi cael ei ddominyddu gan ddynion, ac mae ganddi hygrededd gweithredol sylweddol yn hyn o beth.At hynny, mae'n fam sy'n cydbwyso gofynion bywyd teuluol gyda swydd ddydd eithriadol o brysur yng Ngwasanaethau'r Ddalfa.
"Mae'n un o ddwy Emma yr oeddwn am eu cydnabod yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - mae'r ddwy yn unigolion hynod ymrwymedig a galluog, ond yn wylaidd hefyd. Maent yn arwain drwy eu gweithredoedd ac nid drwy siarad yn unig, ac mae'r ddwy yn bobl rwy'n eu parchu a'u hedmygu'n fawr fel cydweithwyr proffesiynol."
"Mae Jenna yn eithriadol o broffesiynol ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae hi bob amser yn gefn i ni a does dim byd yn ormod o drafferth iddi. Bydd hi bob amser yn mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau o fewn ei gallu proffesiynol i'n cefnogi mewn unrhyw ffordd sy'n bosibl ganddi.
"Mae hi bob amser yn bleserus a chadarnhaol, gan ddod i'r swyddfa â gwên ar ei hwyneb pan fydd hi'n ymweld â ni. Mae hi bob amser yn sicrhau y caiff ein llesiant ei ofalu amdano, ac yn cysylltu â ni pan fydd hi'n gweithio rywle arall.
"Mae Jenna bob amser yn sicrhau ei bod ar gael i siarad, boed hynny am faterion personol neu'n gyngor am rywbeth sy'n ymwneud â gwaith, a bydd y canlyniad bob amser yn gadarnhaol. Os na fydd ganddi'r atebion ar y pryd, bydd hi bob amser yn sicrhau ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cael nhw.
"Jenna yw ein goruwchddynes ysbrydoledig, ac mae hi'n bleser cael gweithio â hi."
"Mae Emma yn arweinydd ac yn fodel rôl ysbrydoledig, yn enwedig ym myd y ditectif.
"Mae hi'n unigolyn cymwys ac ymrwymedig sydd wedi ymgymryd â rolau ymchwiliadol a diogelu ar draws dwy Uned Reoli Sylfaenol (awdurdod lleol/ardaloedd rhanbarthol) ac yn ei chartref hefyd wrth iddi gydbwyso gofynion rôl Ditectif Brif Arolygydd Uned Reoli Sylfaenol a magu dwy ferch yn eu harddegau.
"Mae Emma yn arweinydd naturiol ac wedi gwneud hynny o oedran cynnar, pan ymddiriedwyd ynddi i hyfforddi recriwtiaid newydd yn y fyddin cyn iddi ymuno â'r heddlu.
"Mae'n un o ddwy Emma yr oeddwn am eu cydnabod yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod - mae'r ddwy yn unigolion hynod ymrwymedig a galluog, ond yn wylaidd hefyd. Maent yn arwain drwy eu gweithredoedd ac nid drwy siarad yn unig, ac mae'r ddwy yn bobl rwy'n eu parchu a'u hedmygu'n fawr fel cydweithwyr proffesiynol."
"Mae Hannah bob amser wedi bod yn un o'r aelodau mwyaf cadarnhaol o fewn yr adran, ond rwyf wir mor falch o'r ffordd mae wedi delio â'r misoedd diwethaf.
"Llynedd, cafodd ddiagnosis o ganser prin ar ei hysgyfaint na ellir ei wella, a hithau mor ifanc gyda phriodas ddisgwyliedig yn prysur agosáu.
"Byddwn yn dychmygu i'r mwyafrif ohonom ildio i newyddion o'r fath, ond mae wedi ei wynebu â dewrder, penderfyniad a phositifrwydd.
"Cafodd wybod pan oedd yn ceisio cael dyrchafiad, ac nid yn unig y parhaodd â'r broses gan lwyddo, ond mae wedi ymgymryd â'r rôl yn llawn brwdfrydedd, ac rwy'n gwybod fod ei thîm yn ei hedmygu'n fawr.
"Nid yw Hannah wedi gadael i'w thriniaeth ei hatal rhag byw ei bywyd - roedd hi'n caru bywyd cyn ei diagnosis, ac mae hi'n parhau i wneud o hyd. Mae hi'n byw bywyd i'r eithaf a heb os, mae'r ffordd mae hi'n gweld y byd wedi bod o gymorth mawr wrth iddi dderbyn triniaeth.
"Mae'r ffordd y mae hi wedi ymdopi â'r holl beth yn fy ysbrydoli, ac rwyf wrth fy modd yn clywed ei bod wedi cael gwybod yn ddiweddar fod ei thriniaeth yn gweithio, a bod y canser o dan reolaeth."
"Mae Kelly yn ysbrydoliaeth mewn sawl ffordd; mae ei hagwedd yn hwyliog a llawen, ei phresenoldeb yn bwyllog, a gall droi ei llaw at unrhyw beth. Mae hi'n hynod ymrwymedig i'w rôl ac yn aml yn rhoi o'i hamser rhydd er mwyn sicrhau bod ei staff yn cael gofal, mae hi bob amser ar gael ac wrth law os bydd ei hangen ar unrhyw un ohonom.
"Mae gan Kelly etheg gwaith eithriadol o uchel sy'n gosod esiampl dda i'w thîm, i'r cydweithwyr eraill, ac i'r cyhoedd a ddaw i gysylltiad â hi.
"Ar lefel bersonol, mae Kelly wedi bod yn gymorth enfawr i mi ar hyd y blynyddoedd rwyf wedi ei hadnabod, ac mae hyn wedi bod yn fwy amlwg dros y misoedd diwethaf wrth i mi orfod addasu i amgylchedd gwaith newydd, a ddaeth law yn llaw â newidiadau heriol i mi.
“Diolch Kelly am dy gefnogaeth barhaus.”
"Mae Sam yn haeddu cydnabyddiaeth am iddi fod yn ffigur famol i bawb yn Nhîm Plismona yn y Gymdogaeth Pontardawe.
"Edrychodd ar fy hôl yn bersonol pan ymunais fel PCSO ym mis Tachwedd 2020, a byddaf yn mynd ati pan fydd angen cymorth ac arweiniad arna i o hyd, gan ei bod wedi bod yn y swydd ers dros 17 o flynyddoedd.
"Mae Sam yn berson gofalgar iawn ac yn sicrhau y caiff pawb ofal ac y cânt eu bwydo'n dda - bydd hi'n dod â bwyd i mewn ar ein cyfer yn rheolaidd, a byddwn wrth ein boddau!
"Ni fydd Sam yn hoff o'r sylw, ond rwy'n credu fod y gydnabyddiaeth yn haeddiannol iawn."