Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddwch wedi gweld y penawdau o achosion llys proffil uchel, dedfrydau grwpiau troseddau cyfundrefnol, llofruddion, a threiswyr.
Efallai y byddwch wedi sylwi ar uwch-swyddogion yr heddlu yn cyfeirio at y tîm o bobl sy'n helpu i ddwyn troseddwyr o'r fath o flaen eu gwell, ond a ydych erioed wedi meddwl am y rolau y maent yn eu cyflawni?
Cawsom sgwrs â'r Uwch-ddadansoddwr Cudd-wybodaeth, Kirsty Morgan, am y rhan y mae hi a'i thîm yn ei chwarae er mwyn #CadwDeCymruYnDdiogel.
“Rwyf wedi bod yn y rôl hon ers tua chwe blynedd. Nid oes gan fy nghefndir lawer iawn o gysylltiad â phlismona, a dweud y gwir, gradd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar sydd gennyf, ac roeddwn yn arfer gweithio gyda sefydliadau trydydd sector. Ond nid yw ein rôl yn ymwneud â meddu ar wybodaeth fanwl am y maes plismona, mae'n ymwneud â chael y gallu naturiol i gasglu gwybodaeth a nodi patrymau a thueddiadau.
“Mae dadansoddwyr cudd-wybodaeth yn dehongli setiau data mawr iawn o amrywiaeth o ffynonellau fel systemau'r heddlu, adran cysylltiadau, data'r rhyngrwyd, data cerbydau a theledu cylch cyfyng.Rydym yn cyfrannu at sesiynau briffio yn rheolaidd, lle gofynnir i ni roi barn ar sail gwybodaeth ar yr hyn sy'n digwydd ac unrhyw fylchau o ran dealltwriaeth y mae angen eu llenwi er mwyn cynnal erlyniad llwyddiannus. Yn aml, cawn geisiadau i gyflwyno, esbonio a dehongli'r data mewn achosion llys hefyd.
“Dechreuais weithio gyda HDC fel dadansoddwr cudd-wybodaeth yn yr Uned Reoli Sylfaenol Ganolog ar y pryd, a oedd yn cwmpasu Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Fel dadansoddwr cudd-wybodaeth mewn is-adran, gallech fod yn gweithio ar unrhyw beth o ddata ar ymosodiadau rhywiol, i droseddau cyffredin fel bwrgleriaethau, unrhyw faes troseddol mewn gwirionedd.
“Un o fy swyddi cyntaf oedd ymchwilio i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol, a oedd yn amlwg yn ddiddorol ac yn agoriad llygad go iawn. O fewn blwyddyn i mi ddechrau, roeddwn wedi dilyn yr ymchwiliad hwnnw o'r dechrau i'r diwedd, ac roedd yn rhaid i mi roi tystiolaeth yn y llys.
“Fel uwch-ddadansoddwr cudd-wybodaeth, rwyf bellach yn rheoli tîm o ddadansoddwyr ar draws yr heddlu ac yn cefnogi nifer o adrannau gan gynnwys y Tîm Troseddau Mawr. Yn aml, mae'r ymchwiliadau yn gymhleth iawn, felly er mai staff yr heddlu ydym ni, rydym wir yn dod yn rhan o'r tîm ac mae'n rhaid i ni ddod i adnabod y swyddogion a'r achos yn dda.
“Gall fod yn waith heriol sy'n cymryd amser – y rhannau y tu ôl i'r llenni nad yw'r cyhoedd yn aml yn ymwybodol ohonynt.
“Roedd un aelod o fy nhîm, er enghraifft, yn rhan o achos blacmel a herwgipio yn ddiweddar, a bu'n rhaid cynhyrchu dros 100 o arddangosion a thua 80 o ddatganiadau. Cymerodd y gwaith dair blynedd i'w gwblhau, a chwaraeodd y dadansoddwr cysylltiedig rôl hollbwysig drwy gydol yr ymchwiliad, o'r camau cynnar iawn pan gafwyd yr adroddiad gyntaf hyd at y treial terfynol, gan gafodd yr unigolion dan amheuaeth gyfanswm o dros 200 mlynedd yn y carchar.
“Mae'n rôl mor ddiddorol a chyffrous, ac mae cymaint o amrywiaeth sy'n sbarduno ac yn cadw eich diddordeb. Mae gwybod eich bod wedi helpu i nodi unigolion dan amheuaeth allweddol neu dystion sy'n llywio datblygiad yr ymchwiliad ac yna'n helpu i sicrhau euogfarn, yn rhoi boddhad mawr.
“Pe baech wedi gofyn i mi chwe blynedd yn ôl a fyddwn i'n dod yn ddadansoddwr cudd-wybodaeth i'r heddlu, i ddechrau, byddwn wedi dweud “beth yw hynny?!”, ac yn ail, ni fyddwn wedi meddwl y byddwn yn meddu ar y sgiliau i allu gwneud hynny. Rwy'n falch iawn bod fy ngyrfa wedi dilyn y llwybr hwn a fy mod yn gallu bod yn rhan o broffesiwn mor ddiddorol.”