Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 63 oed wedi cael ei arestio am hanes o gyflawni ymosodiadau rhywiol ym Mro Morgannwg yn dyddio nôl hyd at 40 o flynyddoedd.
Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru, cafodd Dennis Yarr ei arestio ym Margate, Caint ym mis Rhagfyr 2020.
Cafodd ei arestio o ganlyniad i ddewrder dioddefwr yn rhoi gwybod i ni bod dyn wedi ymosod arni pan oedd yn ferch ifanc.
O ganlyniad i ymholiadau pellach, canfuwyd dwy ddioddefwraig arall.
Roedd y tair o dan 12 oed ar adeg yr ymosodiadau rhywiol a ddigwyddodd ddiwedd yr 1970au a'r 1990au cynnar.
Roedd Yarr, a oedd yn wreiddiol o'r Alban, yn gweithio ym Mro Morgannwg fel gyrrwr bws a gyrrwr tacsi.
Rhoddodd anrhegion i ddwy o'r merched a dywedodd wrthyn nhw i beidio â dweud wrth unrhyw un am ei weithredoedd.
Rhoddodd y tair dioddefwraig ddatganiadau i'r heddlu yn ddewr ac yna gwnaethant roi tystiolaeth yn y llys.
Dywedodd Steve Gunney, Cynorthwyydd Ymchwilio o Heddlu De Cymru: "Cafodd gweithredoedd Dennis Yarr effaith ddinistriol ar dair menyw.
"Ond diolch i'w dewrder ac ymchwiliad trylwyr, cafodd Yarr ei ddwyn gerbron y llys.
"Nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch ac wrth iddo gael ei groesholi, honnodd bod y tair menyw yn dweud celwydd ac wedi cynllwynio gyda'i gilydd i wneud cyhuddiadau ffug."
"Dim ond pan gafodd Yarr ei arestio y daeth y dioddefwyr yn ymwybodol bod dioddefwyr eraill yn bodoli, ac ni wnaethant gyfarfod yn ystod yr ymchwiliad a oedd yn mynd rhagddo am dair blynedd nac yn y treial."
Cafwyd Yarr yn euog o bedwar achos o ymosod yn anweddus ac un achos o anwedduster gyda phlentyn ar ôl treial wythnos o hyd yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf (Chwefror 2024).
Dychwelodd i Lys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Mawrth 20) lle cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar, gyda blwyddyn ychwanegol ar drwydded.
Bydd Yarr yn parhau ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes ac mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Ychwanegodd Mr Gunney: “Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
“Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol a byddem yn annog pob dioddefwr; ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.”
Mae gennym adnodd rhoi gwybod am Drais ac Ymosodiadau Rhywiol ar ein gwefan. Yma gallwch roi gwybod am rywbeth sydd naill wedi digwydd i chi, neu rywun arall. Gallwch roi gwybod yn ddienw, heb ofod roi eich manylion. Ni fyddwn yn eich beirniadu; byddwn yn eich trin â pharch, a byddwn yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant chi yn gyntaf bob amser.
Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod nad ydynt ar eu pen eu hunain yn eu profiadau - a bod cymorth ar gael iddynt, naill ai drwy roi gwybod yn uniongyrchol i ni, neu drwy grwpiau cymorth, asiantaethau ac elusennau niferus.
Gall unrhyw un gyfeirio eu hunain at y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, hyd yn oed os nad ydych am siarad â'r heddlu. Mae'r gwasanaeth yn darparu lle diogel a gofal dynodedig i bawb sydd wedi cael eu camdrin yn rhywiol.
Gallwch ddefnyddio'r adnodd adrodd a gweld rhestr o sefydliadau cymorth yma: https://www.south-wales.police.uk/ro/report/rsa/alpha-v1/advice/rape-sexual-assault-and-other-sexual-offences/how-to-report-rape-sexual-assault-other-sexual-offences/
Mae gan bob un o'n tudalennau fotwm i adael y wefan ar yr ochr dde os bydd angen i chi ddefnyddio hwn ar unrhyw adeg. https://www.south-wales.police.uk/advice/advice-and-information/hide-your-visit/hide-your-web-history/
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.