Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Emily Williams, sy'n 25 oed ac yn dod o Gydweli, wedi cael dedfryd o bum mlynedd yn y carchar yn dilyn ymosodiad difrifol yng nghanol dinas Abertawe.
Digwyddodd yr ymosodiad yn Peppermint ar Stryd y Gwynt ym mis Tachwedd 2022. Cafodd y dioddefwr anafiadau difrifol ar ei wyneb o ganlyniad i'r ymosodiad â gwydr. Aeth swyddogion i'r lleoliad a chafodd Emily Monica Williams, yr unigolyn dan amheuaeth, ei nodi a'i harestio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans:
“Ni chaiff trais ei oddef yn yr economi liw nos, ac mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag unrhyw droseddu.
“Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn teimlo'n ddiogel yng nghanol y ddinas yn ystod y nos, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Awdurdod Lleol er mwyn darparu Mannau Cymorth a chynnal ymgyrchoedd rhagweithiol yn yr ardal."