Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Sul, 26 Tachwedd 2023, cynhaliodd swyddogion sy'n gysylltiedig â'n Huned Troseddau Cyfundrefnol chwiliad o dan warant Adran 23 o'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau mewn cyfeiriad ar Heol Loveluck, Pen-y-bont ar Ogwr.
Tra roedd y swyddogion yno, ceisiodd Karen Louise Amos gael gwared ar fagiau o gyffuriau Dosbarth A drwy eu rhwygo ar agor a thaflu'r cynnwys o gwmpas yr ystafell fyw.
Cafodd nifer o eitemau eu hadfer a'u hatafaelu gan y swyddogion a oedd yn gyson â throseddau meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.
Cafodd Karen Amos ei dedfrydu ar 5 Mawrth yn Llys y Goron Caerdydd i bum mlynedd a chwe mis, ar ôl pledio'n euog i'r canlynol:
Dywedodd y Ditectif Ringyll Lia Jones: “Mae cynnal chwiliadau o'r fath o dan warantau cyffuriau yn dangos ein hymrwymiad di-ildio i dargedu'r rheini sy'n ymwneud â'r math hwn o drosedd.
“Mae Heddlu De Cymru yn benderfynol o darfu ar weithgareddau'r rheini sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn i ni allu diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.”
Mae cyffuriau yn effeithio ar bawb, p'un a ydych yn eu defnyddio ai peidio. Ond faint wyddoch chi am gyffuriau, y peryglon a'r gwaith rydym ni a'n partneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem?
Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy.
Cafodd y gwaith rhagweithiol hwn ei gefnogi gan gyllid ychwanegol gan y Ganolfan Cydgysylltu Llinellau Cyffuriau Genedlaethol.