Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros yr wythnosau diwethaf mae Heddlu De Cymru wedi cael adroddiadau am luniau 'preifat a phersonol' o fenywod yn cael eu rhannu drwy amrywiol blatfformau ar-lein.
Yn hanesyddol, nid yw rhannu lluniau heb gydsyniad, mewn amgylchiadau penodol, wedi'i gwmpasu gan ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, newidiodd y gyfraith ar 1 Chwefror, 2024.
Mae'r gyfraith newydd, Adran 188 o Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, yn cyflwyno trosedd i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, sy'n bodoli eisoes, gan olygu ei bod bellach yn anghyfreithlon rhannu lluniau neu ffilmiau o natur bersonol, heb gydsyniad.
Mae Uned Seiberdroseddu Heddlu De Cymru wedi ymchwilio i'r adroddiadau diweddar hyn ac wedi arestio dyn 25 oed mewn cysylltiad â'r drosedd newydd hon ddoe (dydd Mawrth 26 Mawrth). Mae'r dyn bellach wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad ac mae'r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Westlake, Pennaeth yr Uned Seiberdroseddu ac Economaidd:
"Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i amddiffyn a diogelu dioddefwyr troseddau. Mae llwyfannau ar-lein yn dod yn fwy cyffredin i droseddwyr aflonyddu a chodi ofn ar fenywod a a cham-fanteisio arnynt.
"Rydym yn deall pwysigrwydd diogelu'r gofodau ar-lein lle dylai unigolion deimlo'n ddiogel. Gwneir pob ymdrech i ymchwilio i'r achosion hyn yn drylwyr. Bydd troseddwyr yn cael eu hymlid ac yn cael eu dwyn i gyfrif am y gyfraith yn ei chyfanrwydd."
Dylai unrhyw un y mae trosedd o'r fath wedi effeithio arno weld y canllawiau a'r cymorth isod:
Llinell gymorth sy'n cefnogi oedolion (18 oed a hŷn sy'n wynebu camdrin o ganlyniad i luniau o natur bersonol, sydd hefyd yn cael ei alw'n bornograffi dial.
Llinell Gymorth Pornograffi Dial
Caiff StopNCII ei weithredu gan y Llinell Gymorth Pornograffi Dial, sy'n rhan o SWGfL, sef elusen ryngwladol sy'n credu y dylai pawb elwa o dechnoleg, heb niwed.
Beth bynnag rydych yn ei wynebu, bydd Samariad wrth eich ochr.
Ffoniwch ni unrhyw bryd, ddydd neu nos 116 123
Os yw'r math hwn o drosedd wedi effeithio arnoch chi a'ch bod am wneud cwyn, gallwch wneud hyn drwy'r ddolen isod: https://mipp.police.uk/operation/62SWP24B85-PO1