Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad i adroddiad am achos o drais rhywiol nad yw'n ddiweddar, lle cafodd y dioddefwr ei gam-drin yn rhywiol o'r adeg pan roedd yn chwech oed.
Mae Aaron Griffiths, 32 oed o Lansawel, wedi cael ei ddedfrydu i 14 mlynedd yn y carchar. Rhoddwyd gwybod i'r heddlu am y troseddau sawl blwyddyn ar ôl iddynt ddigwydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans:
"Gall y math hwn o drosedd gael effaith gydol oes ar ddioddefwyr ac mae'n hanfodol bod yr heddlu yn mynd ar drywydd achosion o'r natur hon.
"Dangosodd y dioddefwr ddewrder mawr i gysylltu â ni ar ôl sawl blwyddyn, a chafodd ei gefnogi gan yr heddlu ac asiantaethau partner drwy'r broses.
"Roedd y dioddefwr yn ddigon cryf i ddarparu'r dystiolaeth i'n helpu i gynnal ymchwiliad llawn, ac mae hyn wedi arwain at ddedfrydu Griffiths i 14 mlynedd yn y carchar.
"Rydym yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif ac rydym yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd o'r fath i roi gwybod amdani. Dylai dioddefwyr deimlo'n hyderus y byddant yn cael eu trin â pharch ac urddas, ac yr ymchwilir i'w honiad yn llawn."