Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog am droseddau rhyw yn Llys y Goron Abertawe.
Mae Dean Jones, 34 oed o Donyrefail, wedi cael ei ddedfrydu i garchar am 10 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o Ymosod yn Rhywiol ac Ymddygiad Rheolaeth drwy Orfodaeth.
Mae wedi cael ei osod ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes. Mae'r dioddefwr wedi cael gorchymyn atal am oes ar waith.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Evans:
"Cafodd y dioddefwr yn yr achos hwn ei gam-drin gan y troseddwr am gyfnod o chwe blynedd. Dioddefodd drais, ymddygiad rheolaethol a cham-drin rhywiol.
"Mae mynd i'r afael â throseddu o'r math hwn yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru, ac oherwydd cryfder y dioddefwr wrth iddi ddarparu ei thystiolaeth, roedd swyddogion yn gallu casglu'r dystiolaeth i gael Dean Jones yn euog.
"Rydym yn annog unrhyw ddioddefwr troseddu o'r math hwn i roi gwybod amdano i'r Heddlu. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r heddlu, a bydd unrhyw adroddiad yn cael ei ymchwilio iddo er mwyn sicrhau y caiff troseddwyr fel Dean Jones eu herlyn, a'u dioddefwyr eu diogelu am byth."
Ceisiwch help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/