Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar ar ôl achosi marwolaeth dau unigolyn ifanc drwy yrru yn 2022.
Plediodd Owain Hammett-George, 19 oed o Birchgrove, yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ym mis Chwefror eleni.
Plediodd hefyd yn euog i un achos o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Bu'r unigolion 19 oed Ben Rogers a Kaitlyn Davies farw yn y digwyddiad, a ddigwyddodd ar y B4436 yn Bishopston ym mis Mai 2022. Aethpwyd â merch 17 oed, Casey-Leigh Thomas, i'r hysbyty hefyd ag anafiadau difrifol, gan gynnwys anafiadau i'r ymennydd a thorri ei gwddf.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Deborah Hobrough:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig lle collodd dau unigolyn ifanc eu bywyd, a chafodd un arall ei hanafu'n ddifrifol. Yn haeddiannol, mae'r gyrrwr ar fin cychwyn ar ddedfryd o garchar.
“Hoffwn ddiolch i'r teulu am yr urddas a'r amynedd y maent wedi'u dangos drwy gydol yr ymchwiliad.
“Gobeithio bydd yr achos hwn yn tynnu sylw at y risgiau o yrru'n beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.”