Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn ac un fenyw o Gastell-nedd ac Abertawe wedi cael eu carcharu am ymwneud â chyflenwi cocên.
Mae Lisa Amass, sy'n 42 oed, Ryan Huxtable sy'n 47 oed a Thomas Norman sy'n 50 oed wedi cael eu dedfrydu i bedair blynedd, pedair blynedd a phedair blynedd a hanner yn y carchar yn y drefn honno.
Torrodd y swyddogion i mewn i gyfeiriad Huxtable yn Llansawel ar ôl adroddiad ei fod yn cael ei ‘gogio’ (‘cuckooed’) – defnyddir y term hwn i ddisgrifio pan gaiff cartref unigolyn agored i niwed ei ddefnyddio gan grŵp troseddau cyfundrefnol fel safle eu gweithredoedd.
Fodd bynnag, mewn cyfweliad, daeth yn amlwg nad oedd ei gyfrif yn cefnogi'r honiad o gogio, a bod ei negeseuon gyda Thomas Norman ac aelodau eraill o'r Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn awgrymu perthynas a oedd yn fwy buddiol o lawer i'r naill ochr a'r llall, na'r hyn a honnwyd yn flaenorol.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Thomas Richardson:
"Mae'r ddedfryd hon yn golygu bod tri unigolyn a oedd peri perygl iddyn nhw eu hunain ac i'r gymuned ehangach am eu bod yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A bellach oddi ar y strydoedd.
"Rydym yn falch o weld nad yw'r tri yn peri perygl i'r cyhoedd bellach.
“Mater o amser ydyw nes y bydd Grwpiau Troseddau Cyfundrefnol fel y rhain yn cael eu dal a byddwn yn gweithio'n ddi-baid, ochr yn ochr â'n heddluoedd lleol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith ledled y DU, i sicrhau hyn.
“Mae cyffuriau yn achosi gofid diddiwedd yn ein cymunedau ac rydym yn annog unrhyw un sy'n amau bod gweithgarwch anghyfreithlon sy’n ymwneud â chyffuriau yn mynd rhagddo yn ei gymuned i gysylltu â’r heddlu a rhoi unrhyw wybodaeth sydd ganddo i ni.”