Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru wedi cael ei gydnabod am y ffordd y mae'n atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn ymchwilio iddynt ac am ddiogelu menywod a merched mewn mannau cyhoeddus.
Yn ei harolygiad o effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a chyfreithlondeb yr heddlu (PEEL) ar gyfer 2023-2025, asesodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi berfformiad yr heddlu mewn naw maes plismona. Mae'r heddlu yn croesawu'r cyfle i gymryd camau er mwyn sicrhau ei fod yn ateb galwadau brys yn gyflymach.
Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, pennir bod Heddlu De Cymru:
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rydym yn croesawu'r gwaith craffu ac asesu y mae Arolygiaeth Ei Fawrhydi yn ei wneud mewn perthynas â'n perfformiad am ei fod yn ein galluogi i ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen i ni wella a darparu gwasanaeth gwell i gymunedau De Cymru, rhywbeth rydym bob amser yn ymdrechu i'w wneud.
“Diogelu'r cyhoedd a phobl sy'n agored i niwed yw fy mhrif flaenoriaeth ac mae'n braf nodi'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud o ran ymchwilio i blant coll a'r ffaith bod y gwaith rydym yn ei wneud i ddiogelu menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, sydd wedi achosi cymaint o bryder i'r cyhoedd yn ddiweddar, wedi cael ei gydnabod. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn y meysydd hyn ac rydym yn awyddus i wneud mwy o hyd.
“Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod y gwaith rydym yn ei wneud yn cefnogi dioddefwyr troseddau a'r ffaith ein bod yn mynd â mwy o bobl i'r llys yn Ne Cymru na'r cyfartaledd ledled Cymru a Lloegr.
“Nododd yr Arolygiaeth fod angen i ni ymateb i alwadau brys 999 yn gyflymach er mwyn i swyddogion gael eu hanfon i ddiogelu dioddefwyr cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn her i heddluoedd ledled y wlad ac, er bod ein cyfradd ateb galwadau brys wedi gwella ers yr arolygiad, rydym yn ymrwymedig i wneud gwelliannau pellach. Nodwyd ein gwaith arloesol i wella'r ffordd rydym yn asesu'r risg sy'n gysylltiedig â galwadau gan y cyhoedd a blaenoriaethu'r digwyddiadau y mae'r heddlu yn ymateb iddynt.”
Ychwanegodd Mr Vaughan:
“Mae'r arolygiad hwn yn rhoi ciplun o'n perfformiad mewn ystod eang iawn o'r hyn rydym yn ei wneud fel sefydliad – o ymateb i argyfyngau, amddiffyn y rhai y mae ein hangen arnynt fwyaf, diogelu pobl sy'n agored i niwed, ymchwilio i droseddau a gweithio gyda phartneriaid er mwyn atal niwed.
“Rwy'n falch iawn o'n cyflawniadau ac yn awyddus i barhau i wella. Rydym yn llwyr ymrwymedig i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl y mae cymunedau De Cymru yn ei ddisgwyl ac yn ei haeddu.”
Dolen i arolygiad llawn PEEL HMICFRS: PEEL 2023-2025: Arolygiad o Heddlu De Cymru – Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (justiceinspectorates.gov.uk)