Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Adrian Russell Coxon, 48 oed, o St. Mary Close, Pencoed, ei arestio ym mis Tachwedd 2021 ar ôl i ni gael gwybod gan y dioddefwr y dioddefodd ymosodiad rhywiol.
Ymddangosodd gerbron y llys heddiw, dydd Iau 2 Mai, lle cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar am ymosodiad rhywiol drwy dreiddio ac am gyflenwi cyffuriau Dosbarth C. Bu'n rhaid iddo hefyd gofrestru ei hun ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw ac mae'n destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Evans: “Er na fydd unrhyw ddedfryd yn lleihau'r effaith y mae hyn wedi ei gael ar y dioddefwr, rwy'n gobeithio y bydd canlyniad y broses hir hon yn y llys yn galluogi'r dioddefwr i symud ymlaen, gan wybod bod siarad am hyn wedi datgelu Adrian Coxon fel troseddwr rhywiol.
“Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr am y cymorth a'r dewrder a ddangosodd drwy gydol yr ymchwiliad. Gwyddom pa mor anodd yw mynd at yr heddlu, yn enwedig wrth roi gwybod am drosedd o'r natur hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon heddiw yn cynnig ychydig o dawelwch meddwl.
“Ein ffocws ar gyfer yr achos hwn, fel pob achos o drosedd rywiol, yw sicrhau cyfiawnder i'r goroeswr-ddioddefwr, a byddwn yn annog eraill i roi gwybod am ymosodiadau rhywiol i ni.
“Rydym yn ymwybodol o'r effaith ddinistriol y gall troseddau rhywiol ei chael ar bobl. Rydym yn cymryd adroddiadau o ymosodiadau rhywiol o ddifrif a byddwn bob amser yn ymdrin ag adroddiadau o'r natur hon yn gyfrinachol ac yn y ffordd sensitif y maent yn eu haeddu."
Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, rydym yma i chi. Os ydych yn barod, gallwch roi gwybod am achos o dreisio neu ymosodiad rhywiol i ni ar-lein.
Ond os nad ydych am siarad â ni, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu. Chi sy'n rheoli, a chi sy'n cael dewis pwy i siarad â nhw a pha help a gewch. Gallwch siarad â'r bobl a'r sefydliadau hyn yn breifat ac yn gyfrinachol, ac ni fyddant yn rhannu unrhyw beth â ni, oni bai eu bod yn meddwl bod rhywun mewn perygl difrifol.
https://www.newpathways.org.uk/