Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth Phillip Thompson esgus ei fod yn dosbarthu bwyd ond yn lle, torrodd i mewn i gartrefi ac ardaloedd cymunedol adeiladau ledled Caerdydd a Phenarth.
Ar ôl iddo gael ei arestio, cyfaddefodd i dorri i mewn i gyfanswm o 79 o eiddo.
Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Ditectif Ringyll Andrew Coakley, o Heddlu De Cymru:
“Defnyddiodd Phillip Thompson dactegau gwahanol i fynd i mewn i eiddo.
“Yn ogystal â defnyddio grym a manteisio ar ddrws neu ffenestr agored, aeth hefyd i neuadd breswyl myfyrwyr gyda phot paent, gan honni mai addurnwr ydoedd, a chafodd hefyd afael ar fag tecawê Just Eat, gan honni ei fod yn dosbarthu bwyd.
“Yn anffodus iddo, cafodd ei ddal ar deledu cylch cyfyng, ac o'r lluniau hynny, gwnaethom ei adnabod drwy ddefnyddio technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol.”
Mae'r deunydd teledu cylch cyfyng isod yn ei ddangos yn dwyn parseli o ardal gymunedol Quayside yn Butetown.
Cafodd Thompson ei arestio ym mis Tachwedd 2023 ar amheuaeth o 11 o fwrgleriaethau.
Tra roedd ar remand yn aros am dreial, parhaodd ditectifs i ymchwilio i ddigwyddiadau tebyg eraill.
Cafodd y dyn 35 oed o Adamsdown ei ailgyfweld, a chyfaddefodd i 69 o fwrgleriaethau pellach yng Nghaerdydd a Phenarth rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Ionawr 2024.
Yna, plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ac ar 9 Mai 2024, cafodd ei ddedfrydu i saith mlynedd ac un mis yn y carchar am ymosodiad, ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol a 10 o fwrgleriaethau preswyl. Rhoddwyd ystyriaeth i'r 69 o fwrgleriaethau pellach.
Ychwanegodd DS Coakley:
"Rydym yn cymryd bwrgleriaethau o ddifrif a byddwn yn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell.
"Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr ymchwiliad hwn yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwyr ac yn rhoi sicrwydd i'r gymuned ehangach o ran ein hymrwymiad i ymchwilio i fwrgleriaethau.”
Hoffwn atgoffa preswylwyr sy'n byw mewn blociau o fflatiau i fod yn ofalus iawn wrth adael dieithriaid i mewn i'r adeilad.