Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd dau ddyn ac un fenyw o Gaerdydd yn euog am droseddau cyffuriau yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd a ddaeth i ben ddydd Mawrth 30 Ebrill. Plediodd dyn arall o'r Barri yn euog ym mis Mai 2023.
Roedd y pedwar yn rhan o Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yng Nghaerdydd a oedd yn defnyddio llwyfan cyfathrebu EncroChat er mwyn hwyluso'r broses o olrhain a chyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn Ne Cymru.
Rhwng 1 Mawrth a 27 Mai 2020, llwyddodd Kyle Johnson, Lee Bridgeman, Samira Kearle ac Ali Ahmed i symud dros 50 cilogram o Gocên.
Cafodd yr ymchwiliad, a alwyd yn Ymgyrch Aquila, ei gynnal gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol de Cymru.
Dangosodd y negeseuon EncroChat mai Johnson, fel pennaeth y Grŵp Troseddau Cyfundrefnol, oedd wedi trefnu a goruchwylio cludiant yr arian parod o Gaerdydd i Orllewin Llundain, er mwyn talu am y cocên a oedd wedi'i gyflenwi i'r grŵp.
Bridgeman oedd yn cludo'r cyffuriau a'r arian parod, ac roedd yn cyflenwi cocên yn lleol. Roedd Kearle yn cadw a chludo'r arian parod ar gyfer y grŵp, ac roedd Ahmed yn cludo'r arian parod a'r cyffuriau.
Gwadodd Kyle Johnson, 42 oed o Butetown, Caerdydd, ei ran yn y drosedd gan ddatgan mae'n rhaid bod y ddyfais EncroChat wedi bod ym meddiant ei bartner busnes ar y pryd. Fe'i cafwyd yn euog am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a reolir.
Dihangodd Ali Ahmed, 48 oed o Grangetown, Caerdydd, o'r Deyrnas Unedig ym mis Medi 2022 a chafodd y treial ei gynnal yn ei absenoldeb. Fe'i cafwyd yn euog am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a reolir.
Gwadodd Samira Kearle, 39 oed sydd hefyd o Grangetown, Caerdydd, ei rhan a datganodd nad oedd erioed wedi meddu ar ddyfais sydd ag EncroChat arni. Fe'i cafwyd yn euog am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a reolir.
Plediodd Lee Bridgeman, 37 oed, o'r Barri ym Mro Morgannwg, yn euog ym mis Mai 2023 am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau dosbarth A a reolir.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibbins o Tarian: "Mae'r gang troseddol hwn wedi peri trallod yn y gymuned leol er eu budd ariannol eu hunain.
"Ond mae cyfiawnder wedi cael ei weinyddu. Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cymhleth; gyda swyddogion a staff heddlu a fu'n ymroddedig i weithio'n ddiflino i gael canlyniad cadarnhaol.
"Arferai EncroChat fod yn un o'r gwasanaethau cyfathrebu wedi'i amgryptio mwyaf yn y byd, lle'r oedd defnyddwyr yn cael dyfais ffôn symudol wedi'i addasu. Roedd gan y ffôn symudol apiau negeseua preifat wedi'u llwytho arno'n barod, a allai gael eu defnyddio i gysylltu â defnyddwyr EncroChat eraill. Roedd nodweddion diogelwch y dyfeisiau hyn yn eu gwneud yn ddewis poblogaidd i gangiau troseddau cyfundrefnol, ond cafodd y rhwydwaith ei dreiddio gan weithwyr gorfodi'r gyfraith yn 2019, gan ein galluogi i weld negeseuon a chasglu tystiolaeth hanfodol. Fel y digwyddodd yn yr achos hwn."
Bydd y ddedfryd yn cael ei gosod yn ddiweddarach yn y flwyddyn.