Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae deliwr cyffuriau o'r Cymoedd wedi'i garcharu ar ôl i gyrch ar gynhwysydd morgludo a oedd yn eiddo iddo arwain swyddogion at symiau helaeth o gyffuriau, arfau tanio, arian parod a cherbydau wedi'u dwyn.
Cynhaliodd swyddogion chwiliad o dan warant mewn cynhwysydd a oedd yn eiddo i David Smith, 25 oed, yn Nhonypandy ym mis Ionawr eleni.
Yno, daethant o hyd i symiau o amffetamin a chanabis, cyfarpar cyflenwi cyffuriau, car wedi'i ddwyn a beic modur oddi ar y ffordd wedi'i ddwyn.
Yn ystod chwiliadau dilynol o gerbyd arall a'i gartref, daethpwyd o hyd i ddau ddryll llifiedig, gwn llaw, cetris dryll, gwn taser wedi'i weddnewid yn dortsh, symiau pellach o gyffuriau anghyfreithlon y canfuwyd yn ddiweddarach mai cocên ac opioidau cryf iawn oeddent, £17,000 mewn arian parod a ffonau symudol a chyfarpar sy'n gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau cyfanwerthol.
![]() |
![]() |
![]() |
Plediodd Smith o Francis Street, Cwm Clydach, yn euog i ddau achos o fod ag arf tanio wedi'i wahardd yn ei feddiant, bod ag arf tanio wedi'i weddnewid yn ei feddiant, bod ag arf wedi'i wahardd yn ei feddiant, bod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a bod â sylwedd seicoweithredol yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful i 12 mlynedd yn y carchar.
Cafodd ei gyd-droseddwr, Coran Davies, 22 oed – a oedd yn gyrru car wedi'i ddwyn pan geisiodd y ddau ffoi wrth i'r heddlu gyrraedd i gynnal y chwiliad o dan warant – ddedfryd ohiriedig o 12 mis. Plediodd yn euog i fod â sylwedd seicoweithredol yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, bod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a thrafod nwyddau wedi’u dwyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Russell Jenkins:
"Roedd David Smith yn gwneud swm sylweddol o arian drwy ei ymgyrch anghyfreithlon, ac nid oedd yn poeni dim am y gofid yr oedd yn ei achosi i'r gymuned leol a thu hwnt.
"Yn y llys, cyfeiriodd yr erlyniad at gryfder yr opioidau a oedd yn cael eu gwerthu fel 'heroin ffug' gan Smith; roeddent ganwaith yn fwy cryf na heroin ac yn beryglus tu hwnt. Mae hyn yn dangos ei ddiystyrwch tuag at y rhai yr oedd yn eu cyflenwi, a'i barodrwydd i fod ag arfau tanio yn ei feddiant er mwyn diogelu ei ymgyrch ar bob cyfrif.
"Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhybudd i eraill sy'n rhan o'r fath drosoddoleb, ac yn rhoi tawelwch meddwl i'n cymunedau. Byddwn yn mynd ati'n ddiflino i ddal troseddwyr didrugaredd a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i dystiolaeth – ni waeth pa mor gymhleth neu soffistigedig yw'r ymgyrch – i'w dwyn o flaen eu gwell."