Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a geisiodd llofruddio menyw wedi cael ei garcharu am 17 o flynyddoedd a phedwar mis am geisio ei llofruddio a'i stelcio.
Cafodd Daniel Mihai Popescu, 29 oed, heb gartref sefydlog, ei ddedfrydu heddiw i 17 o flynyddoedd a phedwar mis yn y carchar am yr ymosodiad yn ffyrnig yn Aberfan fis Rhagfyr diwethaf. Ymosododd ar y dioddefwr 29 oed yng nghanol stryd, a'i thrywanu dro ar ôl tro gan achosi nifer o anafiadau i'w chorff.
Galwyd swyddogion ychydig cyn 9.10am ar fore dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023, yn dilyn adroddiad bod menyw wedi cael ei thrywanu ar Heol Moy, Aberfan, Merthyr Tudful. Roedd Daniel Popescu wedi gadael y lleoliad ar unwaith. Cafodd ei arestio am 3.50pm y prynhawn hwnnw yn ardal Merthyr Tudful ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Cafodd y dioddefwr, yr oedd Daniel Popescu eisoes yn ei hadnabod, ei chludo i'r ysbyty ond cafodd ei rhyddhau y diwrnod canlynol.
Ymddangosodd Daniel Popescu gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 4 Ebrill a phledio'n euog i geisio llofruddio, a chyfaddefodd i'r troseddau stelcio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd James Morris:
"Aeth Daniel Popescu â chyllell gydag ef gan aros am ei ddioddefwr, cyn ymosod arni'n ddigyfaddawd am gyfnod hir o amser yng nghanol y stryd. Gallaf ond dychmygu pa mor ofnus yr oedd, a'r effaith y mae'r digwyddiad ofnadwy hwn wedi ei chael arni.
"Mae'n amlwg o'r holl grym creulon a pharhaus a ddefnyddiodd mai ei fwriad oedd ei lladd.
"Mae cryfder a dewrder y dioddefwr wrth gefnogi'r erlyniad hwn wedi bod yn eithriadol. Er nad yw'n syndod bod y digwyddiad hwn wedi'i chreithio'n seicolegol o hyd, gwn na all Daniel Popescu, diolch i'w dewrder, niweidio unrhyw fenyw arall. Gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddi.
"Mae'n rhaid i mi hefyd ganmol camau gweithredu'r aelod dewr o'r cyhoedd a redodd i helpu'r dioddefwr ar ôl yr ymosodiad."
Mae Llinell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn yn cynnig help a chyngor i unrhyw un sy'n wynebu trais neu gam-drin domestig, neu unrhyw un, yn cynnwys ffrind neu aelod o'r teulu, sy'n adnabod rhywun y mae angen help arno.
Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth drwy ffonio 0808 80 10 800 neu e-bostio [email protected]. Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.