Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cefnogwr pêl-droed wedi cael Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed yn dilyn digwyddiad ar ôl gêm Dinas Caerdydd.
Cafodd Declan Thomas o Heol Derw, Glynebwy, ei arestio yn dilyn y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Dinas Bryste ar 28 Hydref, 2023.
Chwaraeodd Thomas, 21 oed, rôl arweiniol mewn achos o anhrefn ar safle ffordd a oedd ar gau dros dro ar Heol Sloper a gellir gweld rhywfaint o'i ymddygiad yma ar ddeunydd fideo oddi ar gamerâu a wisgir ar gorff yr heddlu.
Roedd y ffordd ar gau dros dro er mwyn galluogi cefnogwyr y tîm cartref a'r ymwelwyr i adael y stadiwm yn ddiogel.
Oherwydd ymddygiad meddw a bygythiol Thomas, roedd oedi o ran codi'r tâp ynysu, a achosodd anghyfleustra i gannoedd o gefnogwyr, yn ogystal â'r gymuned ehangach.
Plediodd yn euog i affräe yn Llys Ynadon Caerdydd a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 17 Mai.
Cafodd Thomas Orchymyn Gwahardd Pêl-droed am dair blynedd a dedfryd o 14 mis yn y carchar, wedi'i gohirio am 24 mis.
Bydd yn rhaid iddo hefyd gwblhau 150 awr o waith di-dâl, ymatal rhag yfed alcohol am 120 o ddiwrnodau a thalu £337 o gostau / gordal.
Fel rhan o'r gorchymyn, rhaid i Thomas beidio â mynd i mewn i unrhyw safle at ddiben mynychu unrhyw gêm bêl-droed yn y Deyrnas Unedig a reoleiddir at ddibenion Deddf Gwylwyr Pêl-droed 1989.
Pan fydd gemau pêl-droed yn cael eu chwarae y tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd rhaid iddo roi gwybod i orsaf heddlu benodol ac ildio ei basbort.
Dywedodd PC Christian Evans, o Heddlu De Cymru:
“Fe wnaeth y mwyafrif helaeth o'r bobl a fynychodd Stadiwm Dinas Caerdydd ymddwyn yn gyfrifol a mwynhau profiad diogel.
“Fodd bynnag, os oes tystiolaeth o anrhefn yn gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio dod o hyd i'r rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
Gobeithio y bydd canlyniadau'r llys hwn yn anfon neges glir na chaiff ymddygiad o'r fath ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd."