Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 35 oed o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei ddyfarnu'n euog o feithrin perthynas amhriodol â merch 12 oed ar ôl gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd.
Heddiw, dydd Iau 2 Mai, cafodd Matthew Cheshire, o ardal Sarn, ei anfon i'r carchar am bedair blynedd a thri mis a chafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Laura Davies o Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru (POLIT): “Dangosodd Matthew Cheshire ymddygiad rheibus ac ystrywgar wrth feithrin perthynas amhriodol â merch a oedd yn 12 oed yn ei dyb ef.
“Cynhaliodd POLIT a'r Uned Fforensig Ddigidol yr ymchwiliad a datgelwyd cyfathrebu rhywiol pellach â phlentyn arall a chafodd y ferch hon ei diogelu rhag ymddygiad camfanteisiol pellach gan Cheshire. Roedd y gwaith a wnaed gan Heddlu De Cymru wedi helpu i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn ar-lein rhag y risg yr oedd Cheshire yn ei pheri iddynt.
“Yn sgil cryfder y dystiolaeth a gasglwyd, plediodd Cheshire yn euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.”
Dywedodd DC Isaac Gott, swyddog achos Tarian: “Roedd y dyn hwn yn credu ei fod yn cyfathrebu â phlentyn 12 oed rhwng mis Awst a mis Hydref 2023. Dechreuodd y cyfathrebu droi'n rhywiol ac roedd yn amlwg bod gan y diffynnydd ddiddordeb rhywiol yn y plentyn. Llwyddodd i feithrin cyfeillgarwch agos a defnyddiodd hyn i feithrin perthynas amhriodol, gan siarad am ffilmiau Disney a dweud wrth y plentyn ei bod hi'n hardd.
“Mae meithrin cyfeillgarwch â phlentyn cyn cyflwyno elfennau rhywiol i'r sgwrs yn dacteg gyffredin sy'n cael ei defnyddio'n aml gan droseddwyr rhywiol.
“O ganlyniad i'r ymchwiliad rhagweithiol gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru, cafodd y diffynnydd ei adnabod. Ni allaf orbwysleisio'r gwaith ardderchog a wnaed gan Dîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru a ymchwiliodd yn drylwyr i'r troseddau ac a lwyddodd, o ganlyniad i hynny, i ganfod plentyn arall a oedd yn cael ei gam-drin yn rhywiol ar-lein. Gwnaeth y diffynnydd annog y plentyn hwn i gyflawni gweithredoedd rhywiol treiddgar.
“Yn yr achos hwn, roedd y diffynnydd yn hollol anhysbys i asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac rwy'n sicr pe na fyddai Tarian wedi ei adnabod, y byddai wedi parhau i gyflawni troseddau yn erbyn plant a gadael plant bregus yn agored i gamfanteisio rhywiol.
“Dylai unrhyw un sydd â phryderon am ddiogelwch neu lesiant plentyn gysylltu â'r heddlu. Bydd Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Tarian yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ac yn mynd ar drywydd y rhai sydd â diddordeb rhywiol mewn plant yn ddiflino.”
Rhowch wybod am unrhyw bryderon drwy:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101
📞 Ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser