Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am dystion i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd am 9.45pm nos Sadwrn (26 Mai) yn y Station Hotel yng Ngorseinon – a gaiff ei adnabod yn lleol fel ‘The Gyp’.
Cafodd dyn lleol 64 oed ei gludo i Ysbyty Treforys lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw dystion i'r digwyddiad hwn a oedd naill ai yn y Station Hotel neu'r tu allan i'r eiddo a all fod wedi gweld unrhyw beth ac yn gofyn iddynt gysylltu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dai Butt: “Roedd hwn yn ymosodiad difrifol iawn sydd wedi gadael dyn yn ddifrifol wael yn yr ysbyty, ac rydym am glywed gan unrhyw sydd â gwybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y mae'n ymddangos, a all ein helpu gyda'n hymchwiliad.
“Mae dau unigolyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
“Cafodd dyn 39 oed o Abertawe ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol. Mae yn y ddalfa o hyd yng ngorsaf heddlu Canol Abertawe.
“Mae menyw 54 oed o Abertawe a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth nes y bydd ymholiadau pellach wedi cael eu cwblhau.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod: 2400172904
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101
neu
📞Crimestoppers, yn ddienw, ar 0800 555111
.