Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ni ddaeth ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau marwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd yn 2021 o hyd i unrhyw dystiolaeth mai gweithredoedd swyddogion oedd yn gyfrifol am ei farwolaeth, na bod eu gweithredoedd wedi cyfrannu ati.
Cadarnhaodd canfyddiadau ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r honiadau bod Mr Hassan wedi cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei hil, neu fod swyddogion wedi ymosod arno.
Cyhoeddwyd canlyniad ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn cwêst i farwolaeth Mr Hassan, lle y cofnodwyd rheithfarn agored wrth i'r Crwner ddweud wrth y rheithgor nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi canfyddiad bod unrhyw weithrediadau na hepgoriadau gan yr heddlu neu weithwyr meddygol proffesiynol wedi cyfrannu at farwolaeth Mr Hassan.
Bu farw Mr Hassan sawl awr ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa'r heddlu, ar ôl iddo gael ei arestio am dor-heddwch yn dilyn adroddiadau am aflonyddwch mewn eiddo ar Heol Casnewydd, Caerdydd, ym mis Ionawr 2021.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal:
“Ni allwn ddychmygu pa mor anodd y mae'r cyfnod hwn wedi bod i aelodau teulu Mohamud Hassan na'r poen a'r galar y maent wedi'u dioddef ers ei farwolaeth.
"Mae'r achos hwn wedi bod yn destun llawer o graffu cyhoeddus ac annibynnol. Nawr bod y ffeithiau wedi'u cyhoeddi a'u clywed yn ystod y cwêst diweddar, rydym yn gobeithio bod y cwestiynau niferus sydd wedi codi wedi'u hateb."