Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 30 mlynedd yn y carchar ar ôl ymosod ar ddyn a dwyn ei Rolex ffug.
Collodd y dioddefwr sef dyn 45 oed lygad o ganlyniad i'r ymosodiad ac mae'r effaith ar ei fywyd personol a phroffesiynol wedi bod yn drychinebus.
Ar ôl iddo gyflawni'r lladrad, gwnaeth Abdul Ismail, un o'r tri dyn a ddyfarnwyd yn euog, ffilmio ei hun â'r oriawr a rhoddodd luniau ar Snapchat.
Daethpwyd o hyd i'r lluniau ar ei ffôn symudol pan gafodd ei arestio.
Un o'r lluniau a welwyd ar ffôn symudol Abdul Ismail
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Eleri Powell o Heddlu De Cymru:
“Gwelwyd Thierno Dilallo, Abdul Ismail, a Mubarak Yusuf ar ddeunydd teledu cylch cyfyng yn denu'r dioddefwr i Louisa Place, Bae Caerdydd, tra roedd ar noson allan ym mis Mai 2022.
“Roedd y dioddefwr yn agored i niwed oherwydd alcohol, a chredwn iddo gael ei dargedu oherwydd ei oriawr y mae'n debygol eu bod yn credu ei bod yn Rolex go iawn.
“Ymosodwyd arno â photel wydr ac er gwaethaf ymdrechion gorau gweithwyr meddygol proffesiynol, yn drasig ni lwyddwyd i achub ei lygad a bu rhaid ei dynnu drwy lawdriniaeth.”
Hysbysodd unigolyn lleol yr heddlu ar ôl dod o hyd i'r dioddefwr wedi'i anafu gan ei helpu i ailymuno â'i ffrindiau, cyn rhoi gwybod i'r heddlu.
Lansiwyd ymchwiliad, a dechreuodd ditectifs chwilio'r deunyddiau teledu cylch cyfyng yn helaeth.
Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a oedd yn gweithio ym Mae Caerdydd a wnaeth adnabod Thierno Dilallo, 20, Abdul Ismail, 20, a Mubarak Yusuf, 21, o ddeunydd y teledu cylch cyfyng.
Cafodd Ismail a Yusuf eu harestio a'u cyhuddo o fewn mis, ond llwyddodd Dilallo i ffoi o'r wlad.
Pan ddychwelodd i'r DU cafodd ei arestio a chafodd y tri eu dyfarnu'n euog o niwed corfforol difrifol ac o ladrata yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Ionawr 2024.
Cawsant eu cadw yn y ddalfa a'u dedfrydu ddydd Llun, 13 Mai.
Cafodd Thierno Diallo, o Lan yr Afon, ei ddedfrydu i ddeng mlynedd mewn Sefydliad i Droseddwyr Ifanc.
Dedfrydwyd Abdul Ismail, o Grangetown, i ddeng mlynedd mewn Sefydliad i Droseddwyr Ifanc.
Dedfrydwyd Mubarak Yusuf o Grangetown i ddeng mlynedd yn y carchar.
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl:“Mae'r effaith ar y dioddefwr wedi bod yn druenus, ond roedd yn falch â'r canlyniad yn y llys. Gobeithio y gall roi ei hun ar ben ffordd nawr, gyda'r tri unigolyn hyn yn bwrw dedfrydau sylweddol yn y carchar.”