Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd ein Timau Plismona yn y Gymdogaeth, ein Cwnstabliaid Gwirfoddol a'n Gwasanaethau Cymorth Gweithredol ymgyrchoedd rhagweithiol yn ardaloedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gan dargedu achosion o ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol o dan Ymgyrch Winsford.
Mae Ymgyrch Winsford yn cynnig ymateb tactegol gan bob rhan o'r heddlu i droseddwyr sydd wedi bod yn bla ar gymunedau o ganlyniad i gyffuriau a throseddau ac achosion o anhrefn cysylltiedig, drwy gydlynu adnoddau arbenigol ar draws y Gwasanaethau Cymorth Gweithredol a Thimau Plismona Lleol.
Gweithredodd swyddogion yn y gymdogaeth ddwy warant Camddefnyddio Cyffuriau gyda chymorth y Tîm Cymorth Tiriogaethol a swyddog cŵn. Wrth weithredu un o'r gwarantau, atafaelwyd beic modur a gafodd ei ddwyn o ardal Treharris yn ôl yn 2021. Wrth weithredu'r llall, arestiwyd un unigolyn am fod â chyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B yn ei feddiant, a gofynnwyd i'r RSPCA fynychu ar ôl dod o hyd i anifeiliaid a oedd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso ar y safle.
Mewn mannau eraill, cynhaliodd swyddogion y Tîm Troseddau Tiriogaethol, ochr yn ochr â'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth, y Tîm Cymorth Tiriogaethol, swyddogion cŵn a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, batrolau rhagweithiol yn ardaloedd Townhill, Penlan, Clase, Clydach a Bôn-y-maen, gan dargedu beiciau oddi ar y ffordd a oedd yn achosi problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy gael eu gyrru'n beryglus ar y ffordd ac yr amheuwyd eu bod yn cael eu defnyddio i gludo cyffuriau.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Price:
“Mae Ymgyrch Winsford wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'n cyfleu neges i'n cymunedau ein bod yn gwrando arnynt ac y byddwn yn cymryd camau gweithredu.
“O ganlyniad i'r ymgyrch, llwyddwyd i atafaelu sawl cerbyd a oedd naill ai wedi'i ddwyn neu wedi cael ei ddefnyddio'n anghyfreithlon; cafodd un dyn ei arestio gan ei fod yn unigolyn yr oedd yr heddlu yn chwilio amdano i'w ddychwelyd i'r carchar, a chynhaliwyd nifer o weithredoedd stopio a chwilio, a arweiniodd at un canlyniad cadarnhaol.”