Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu Jordan Tristan Williams a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd am 3.00pm ddydd Gwener 22 Rhagfyr ar Ffordd Aberdâr, Aberpennar wedi talu’r deyrnged ganlynol iddo:
Dywedodd Sian, ei fam, ei phartner Steve, a'u tair merch, Jasmine-Leigh, Lucy-Jo, a Chardonnay yn eu teyrnged:
“Rydym yn ddiolchgar iawn o fod wedi cael treulio 26 mlynedd ym mywyd byr Jordan. Roedd yn ddyn prysur iawn a gwnaeth lawer o ffrindiau yma yng Nghymru, yng nghymunedau'r pentrefi bach, ac yn fyd-eang, gan wneud ffrindiau drwy ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol beicio a chwarae gemau. Talodd pobl ledled y byd deyrnged i Jordan, eu ffrind – byddant yn ei gofio am byth.
“Roedd Jordan yn weithiwr caled ac ond megis dechrau ar ei daith bywyd. Mae derbyn cymaint o negeseuon a chlipiau fideo gan ei ffrindiau a'r rhai a oedd yn ei adnabod ac a oedd yn golygu llawer iddo wedi codi ein calonnau a'n hannog i ddyfalbarhau ers ei farwolaeth annisgwyl.
“Roedd gan Jordan galon aur a byddai'n gwneud popeth yn ei allu i helpu unrhyw un. Roedd ganddo'r ddawn i godi eich calon pan roeddech yn teimlo'n isel. Byddai eich hwyliau'n codi o weld ei wên a'i winc ddrygionus. Allech chi ddim bod yn ddig ag ef am gyfnod hir. Roedd yn un o fil, yn fab arbennig iawn, yn frawd annwyl ac yn ffrind i lawer.
“Roedd Jordan yn frawd mawr i'w dair chwaer, Jasmine-Leigh, Lucy-Jo, a Chardonnay yr oedd yn eu caru'n fawr iawn ac wrth ei fodd yn eu cwmni. Chwaraeodd ran enfawr yn eu bywydau ac rwy'n siŵr bod ei ddoethineb a'i eiriau caredig yn atsain yn eu calonnau wrth iddynt alaru am eu brawd mawr. Byddant yn cofio amdano ac yn falch ohono am byth.
“Hoffem ddiolch i bob unigolyn a helpodd ar y pryd, gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd a wnaeth bopeth posibl dros Jordan.
“Diolch o waelod calon i'r gwasanaethau brys, y parafeddygon a'r ambiwlans awyr a oedd yn bresennol am geisio achub bywyd ein mab Jordan.
“Gorffwys mewn hedd, ein mab a'n brawd annwyl. Byddwn yn dy garu am byth”.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu unrhyw un sydd â deunydd fideo o gamera dashfwrdd i gysylltu gan ddyfynnu cyfeirnod 2300434231.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/