Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddau ddyn olaf a gafwyd yn euog o droseddau'n ymwneud â chyffuriau fel rhan o Ymgyrch Bluebell wedi cael eu hanfon i'r carchar.
Ymddangosodd Mirsad Nerguti, 21 oed a Qazim Hodollari, 38 oed, y ddau o Lundain, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun (29 Ionawr) lle cafodd y naill ddedfryd o chwe blynedd a chwe mis, a'r llall ddedfryd o saith mlynedd ac wyth mis yn y carchar.
Bydd y dynion yn ymuno â saith arall yn y carchar a ddedfrydwyd yn gynharach y mis hwn i fwy na 82 o flynyddoedd yn y carchar am droseddau tebyg.
Yn ystod yr ymchwiliad gan Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol ar gyfer de Cymru, atafaelwyd arian parod, cyffuriau a pharaffernalia a oedd dan amheuaeth o fod ynghlwm â delio mewn cyffuriau, gan gynnwys:
Tua £100,000 mewn arian parod.
Tua 1000 o blanhigion canabis.
18kg o ganabis.
7kg o gocên.
Peiriannau cyfrif arian parod a chloriannau pwyso diwydiannol.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Peter Kelly: "Mae dedfryd Nerguti a Hodollari yn golygu bod naw person sy'n delio â chyffuriau ac sy'n peri gofid yng nghymunedau de Cymru bellach yn y carchar lle bydd digonedd o amser iddynt feddwl am y niwed a achoswyd ganddynt i eraill.
“Ymchwiliad dan arweiniad Tarian yw Ymgyrch Bluebell a oedd yn ymchwilio i Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yng Nghaerdydd a oedd yn gyfrifol am gael gafael ar sawl cilogram o gocên a'i ddosbarthu drwy Dde Cymru.
“Arweiniodd yr ymchwiliad at sawl atafaeliad, a oedd yn gwneud cyfanswm o 7 cilogram o gocên (gyda gwerth amcangyfrifedig ar y stryd o bron i £600,000), 18 cilogram o ganabis (gyda gwerth amcangyfrifedig ar y stryd o £175,000), tua £100,000 o arian parod, ynghyd â dymchwel gwaith tyfu canabis o faint diwydiannol yn Llanbedr Pont Steffan gyda gwerth stryd posibl o dros £500,000.
“Bydd Tarian yn parhau i fynd i'r afael â'r diflastod y mae cyffuriau yn ei achosi i'n cymunedau. Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn hyd yma yn dangos y byddwn yn ymlid yr unigolion hynny sy'n ymgymryd â throseddau ar raddfa fawr yn ddiflino, er mwyn ceisio cyfiawnder effeithiol yn eu herbyn, a sicrhau eu bod yn cael eu dwyn gerbron y Llysoedd.
“Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
“Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”