Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 6,800 o swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru wedi cael eu gwirio yn erbyn Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND) fel rhan o'r prosiect sgrinio uniondeb mwyaf a gynhaliwyd ym maes plismona.
Y llynedd, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref bod yn rhaid i bob heddlu wirio ei weithlu. Roedd hyn yn dilyn achosion proffil uchel cenedlaethol o swyddogion yr heddlu yn cael eu heuogfarnu o droseddau difrifol, gan gynnwys trais.
Gwnaed penderfyniad gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) y byddai pob swyddog, staff a gwirfoddolwr yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael ei wirio yn erbyn Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu (PND) er mwyn nodi unrhyw droseddau, cudd-wybodaeth neu gyhuddiadau y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.
Cwblhawyd gwiriadau ar 3,470 o swyddogion, 2,855 o aelodau staff, a 476 o wirfoddolwyr Heddlu De Cymru erbyn hyn. Nid oes yr un o'r gwiriadau hyn wedi datgelu unrhyw droseddau na chudd-wybodaeth yr oedd angen cynnal ymchwiliad troseddol, ymchwiliad camymddwyn nac adolygiad fetio arnynt na chymryd camau gan y tîm rheoli.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl, Mark Travis:
"Roedd yr ymarfer golchi data hanesyddol yn ymarfer pwysig er mwyn sicrhau bod ein swyddogion, ein staff a'n gwirfoddolwyr yn unigolion proffesiynol ac ymrwymedig sy'n gweithredu ag uniondeb ac yn gweithio'n galed er mwyn helpu i gadw cymunedau De Cymru'n ddiogel.
"Mae gennym systemau ar waith eisoes er mwyn nodi swyddogion heddlu llwgr a chael gwared ar yr unigolion nad oes lle iddynt ym maes plismona. Mae gwaith rhagweithiol ein Hadran Safonau Proffesiynol, gweithlu sy'n teimlo'n hyderus i godi llais am ymddygiad amhroffesiynol, ac mae canlyniad yr ymarfer golchi data yn rhoi hyder i ni ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gennym swyddogion a staff sy'n cynnal y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf.
"Ond nid ydym yn llaesu dwylo, a byddwn yn parhau i ymchwilio'n drylwyr i'r swyddogion nad yw eu hymddygiad yn bodloni’r hyn a ddisgwylir gan holl swyddogion a staff Heddlu De Cymru."
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi eisoes wedi cyhoeddi adroddiad 'Tynnu goleuni ar fradychu: Camddefnyddio rôl at ddiben rhywiol’. Un o'r argymhellion oedd bod heddluoedd yn defnyddio meddalwedd monitro i ganfod camddefnydd o'u systemau a'r wybodaeth ynddynt yn effeithiol. Dywedwyd y dylai heddluoedd hefyd fanteisio ar gyfleoedd i archwilio data am sut mae eu staff yn defnyddio systemau a ffonau'r heddlu.
Mae enghreifftiau diweddar wedi bod o swyddogion yn cael eu diswyddo gyda'r achosion yn tynnu sylw at sut gall y defnydd o feddalwedd monitro ynghyd â thechnegau ymchwiliol eraill ddatgelu llygredd.
Mae'r heddlu'n arwain y maes plismona yn y DU ar nodi a mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan annog dioddefwyr i ddod ymlaen i ddelio â'r ymddygiad hwn, a'r camddefnydd a wneir o'u swydd at ddibenion rhywiol. Caiff y dechnoleg gwrthlygredd arloesol ei defnyddio i fonitro systemau cyfrifiadurol er mwyn nodi swyddogion a staff a all fod yn arddangos arwyddion o ymddygiad rheibus neu amhriodol, er mwyn sicrhau ymyrraeth gynnar.
Canfuwyd mewn arolygiad diweddar gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi bod Heddlu De Cymru yn hyrwyddo diwylliant moesegol, gydag arweinyddiaeth glir sy'n cefnogi gwelliant drwy ddysgu. Aeth ymlaen i ddatgan: ‘Dywedodd staff ymhob rhan o'r heddlu wrthym fod y prif gwnstabl a'r uwch arweinwyr yn arddangos arweinyddiaeth glir ar faterion moesegol’ a ‘Dywedodd staff wrthym y byddent yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi os byddai angen iddynt herio ymddygiad amhroffesiynol neu roi gwybod amdano’.
Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi cael ei adnabod fel un o ddau heddlu a gafodd sgôr dda yn dilyn arolygiad gan yr arolygiaeth am sut mae'r heddlu yn ymdrin â llygredd yn ogystal â'r broses o fetio swyddogion a staff. Edrychodd yr arolygiad ar ba mor effeithiol y mae heddluoedd yn fetio eu swyddogion a'u staff, pa mor effeithiol maent yn diogelu'r wybodaeth a'r data a gedwir ganddynt a pha mor dda yr ymdrinnir â llygredd.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Travis:
“Mae'r mwyafrif llethol o'r swyddogion a staff sy'n gweithio i Heddlu De Cymru yn ymddwyn yn berffaith ac yn gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r cyhoedd. Mae'r nifer prin iawn ohonynt sy'n dewis mynd yn groes i'r safonau a ddisgwylir ohonynt, yn tanseilio'r holl waith hwn, yn erydu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ynom ni, yn ogystal â'u hyder yn ein plismona. Dyma pam y caiff unrhyw achos o dorri safonau ymddygiad proffesiynol ei gymryd o ddifrif."