Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Plediodd Henry Steven Wilson, 59 oed o Stryd Matthew, Waun Wen, Abertawe, yn euog i naw cyhuddiad, gan gynnwys 22 o achosion o dreisio plentyn.
Bydd yn y carchar am o leiaf 10 mlynedd cyn y gall wneud cais am barôl. Mae wedi'i osod ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes. Cafodd ei wneud yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol yn flaenorol, a fydd yn parhau ar waith.
Rhwng 1994 a 2004, gwnaeth gam-drin a threisio ei ddioddefwr ifanc, a oedd yn bump oed yn unig pan ddechreuodd y cam-drin.
Dywedodd Swyddog yr Achos, y Ditectif Gwnstabl Rebecca Williams:
"Mae troseddau Henry Wilson yn echrydus ac yn annymunol.
"Mae'n amlwg ei fod yn peri risg wirioneddol a sylweddol i blant.
"Rwy'n ymwybodol na all unrhyw ddedfryd wneud iawn am y niwed dinistriol y mae wedi ei achosi nac adfer plentyndod y dioddefwr dewr, ond rwyf wir yn gobeithio y gall ddechrau ailadeiladu ei fywyd gan wybod ei fod yn ddiogel rhag ei gamdriniwr.
"Hoffwn ganmol y dioddefwr yn gyhoeddus am ddangos urddas a chryfder anhygoel wrth gefnogi'r ymchwiliad hwn. Dylai fod yn falch o'i ddewrder sy'n golygu bod Henry Wilson bellach yn y carchar am gyfnod sylweddol o amser."
Dedfrydwyd Wilson y bore yma yn Llys y Goron Abertawe, Ddydd Llun 8 Ionawr.