Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd saith o bobl eu hanfon i'r carchar am gyfanswm o 82 o flynyddoedd a deg mis yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Gwener 16 Medi) am gyfres o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.
Daethpwyd â'r dynion gerbron y Llys yn dilyn ymchwiliad hir a chymhleth gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru a oedd yn ymestyn dros ardaloedd heddlu De Cymru a Dyfed-Powys.
Yn ystod yr ymchwiliad, atafaelwyd arian parod, cyffuriau a pharaffernalia a oedd dan amheuaeth o fod ynghlwm â delio mewn cyffuriau, gan gynnwys:
Tua £100,000 o arian parod.
Tua 1000 o blanhigion canabis.
18kg o ganabis.
7kg o gocên.
Peiriannau cyfrif arian parod a chloriannau pwyso diwydiannol.
O ganlyniad i hyn, arestiwyd naw dyn a'u dwyn i dreial. Ymhlith y naw dyn roedd:
Fation Bardhaj, 39 oed, o Ben-y-lan, Caerdydd - dedfryd: 13 blynedd 6 mis
Klodian Zefi, 35 oed, o'r Rhath, Caerdydd - dedfryd: 14 blynedd
Gregory Hardy, 34 oed, o Waunarlwydd, Abertawe – dedfryd: 14 blynedd
Elon Joseph, 34 oed, o Waunarlwydd, Abertawe – dedfryd: 9 blynedd
Bardhok Bardhoj, 51 oed o Gilcennin, Ceredigion - dedfryd: 19 blynedd
David Price, 50 oed o Gynffig, Pen-y-bont ar Ogwr – dedfryd: 9 blynedd
Abdi Lekaj, 62 oed, o'r Rhath, Caerdydd – dedfryd: 4 blynedd 4 mis
Bydd dau eraill, Mirsad Nerguti, 21 oed, a Qazim Hodollari, 38 oed, o Lundain, yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Peter Kelly: “Ymchwiliad dan arweiniad Tarian yw Ymgyrch Bluebell a oedd yn ymchwilio i Grwp Troseddau Cyfundrefnol yng Nghaerdydd a oedd yn gyfrifol am gael gafael ar sawl cilogram o gocên a'i ddosbarthu drwy Dde Cymru.
“Arweiniodd yr ymchwiliad at sawl atafaeliad, a oedd yn gwneud cyfanswm o 7 cilogram o gocên (gyda gwerth amcangyfrifedig ar y stryd o bron i £600,000), 18 cilogram o ganabis (gyda gwerth amcangyfrifedig ar y stryd o £175,000), tua £100,000 o arian parod, ynghyd â dymchwel gwaith tyfu canabis o faint diwydiannol yn Llanbedr Pont Steffan gyda gwerth stryd posibl o dros £500,000.
“Roedd Klodian Zefi, Fation Bardhaj a Bardhok Bardhoj yn cydweithio yng Nghaerdydd gan hwyluso'r gwaith o gyflenwi'r cocên. Roedd eu safleoedd cwsmeriaid yn cynnwys ardaloedd Abertawe a Phort Talbot.
“Gregory Hardy oedd pennaeth y Grwp Troseddau Cyfundrefnol yn Abertawe. Roedd ganddo fynediad at uned fusnes yng Ngorseinon, Abertawe. Pan gafodd hon ei chwilio, atafaelwyd gwasg hydrolig, ynghyd â pharaffernalia cyffuriau eraill a deunydd lapio cocên maint cilogram gwag. Roedd Elon Joseph yn gweithio i Hardy ac fe'i gwelwyd yn ymweld â'r uned fusnes yng Ngorseinon yn aml, yn ogystal â chyfarfod â Bardhok Bardhoj yn Abertawe a Chaerdydd yn aml.
“Hardy hefyd oedd yn gyfrifol am sefydlu'r fferm ganabis yn Llanbedr Pont Steffan. Pan ddechreuwyd cynhyrchu'r canabis, Bardhoj oedd yn gyfrifol am dyfu a chynnal a chadw'r planhigion.
“Roedd David Price yn gweithio fel cludydd y grwp yn ardaloedd Port Talbot a'r Pîl a'r cyffiniau. Cafodd ei weld yn cyfarfod â Bardhok Bardhoj a Fation Bardhaj mewn lleoliadau amrywiol lle cafodd bagiau a phecynnau eu cyfnewid.
“Roedd Qazim Hodollari yn gweithio fel cludwr ac roedd yn gyfrifol am deithio o ardal Llundain i gludo cyffuriau i Dde Cymru ac i gasglu arian parod.
“Roedd Mirsad Negruti wedi'i leoli yn Llundain. Ar un achlysur, trefnodd Bardhok Bardhoj i Abdi Lekaj deithio o Gaerdydd i Lundain i gyfarfod â Negruti. Pan oedd Lekaj yn teithio'n ôl i Dde Cymru, cafodd ei arestio a chanfuwyd bod ganddo 2 gilogram o gocên yn ei feddiant. Gwnaeth tystiolaeth fforensig gysylltu Mirsad Negruti â'r atafaeliad hwn.
Ychwanegodd y Ditectif Ringyll Kelly: “Megis rhan fach o'r gwaith rydym yn ei wneud o fewn Tarian i wneud ardaloedd de Cymru yn amgylchedd gelyniaethus i droseddau cyffuriau yw llwyddiant yr ymchwiliad hwn.
“Roedd yr ymgyrch hon yn ymgyrch ddwys, a lwyddodd diolch i gydweithrediad gwahanol heddluoedd ledled De Cymru.
“Bydd Tarian yn parhau i fynd i'r afael â'r diflastod y mae cyffuriau yn ei achosi i'n cymunedau. Mae llwyddiant yr ymchwiliad hwn hyd yma yn dangos y byddwn yn mynd ar drywydd y rhai sy'n cymryd rhan mewn troseddau graddfa fawr yn ddiflino i sicrhau cyfiawnder effeithiol yn erbyn yr unigolion hynny a'u bod yn cael eu dwyn gerbron y Llysoedd.
“Os byddwch dan amheuaeth bod gweithgareddau delio cyffuriau ar waith neu os byddwch yn poeni y gall rhywun ifanc neu oedolyn agored i niwed fod wedi'i dargedu gan grwp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
“Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os yw trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.”