Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar y B4275, Ffordd Abercynon, Aberpennar, a ddigwyddodd tua 7:40am ar 19 Rhagfyr 2023.
Bu farw dyn 18 oed o Aberpennar o ganlyniad i'r gwrthdrawiad ac ers hynny, mae wedi cael ei enwi'n Jansen Jones.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo.
Rebecca, mam Jansen:
'Rwyf mor falch o fod yn fam i Jansen. 'Rwyf wedi cael cymaint o negeseuon gan ei ffrindiau, hen a newydd, yn dweud wrthyf y byddai Jansen bob amser yn rhoi cyngor da i'r rheini yr oedd arnynt ei angen. Er mai dim ond 18 oed oedd Jansen, roedd yn ddoeth ac yn aeddfed tu hwnt.
Ef oedd cannwyll fy llygad. Roedd yn gefn ac yn angor i mi drwy'r cyfnodau da a drwg. Roedd yn feddylgar, yn gwrtais, yn garedig ac yn ofalgar.
Roedd Jansen wrth ei fodd yn cadw'n heini ac yn iach. Roedd Jansen wrth ei fodd yn yr awyr agored, yn archwilio'r mynyddoedd a'r afonydd cyfagos. Roedd ganddo awch am fywyd, a sawl uchelgais ar gyfer y dyfodol. Breuddwydiodd am lwyddiant.
Jansen oedd fy ffrind gorau, a fy mab hynaf. Fyddwn i ddim y fam rwyf i heddiw oni bai am Jansen. Ef oedd y brawd mawr gorau erioed, bob amser yn gofalu am bawb, ac wrth ei fodd yn chwarae rôl Gŵr y tŷ.
Mae fy nghalon wedi'i chwalu'n deilchion. Rwy'n dy golli di gymaint Jansen, ac ni fydd y boen byth yn lleddfu.
Rwy'n dy garu di gymaint Jansen, ac rydym ni fel teulu yn dy garu di ac yn dy golli di."
Susan, ei fam-gu:
Roedd Jansen yn frawd mawr i bedwar brawd, Jaeden, Kian, Cody, Tyler, ac i'w chwaer, Elsie. Rwyf wedi bod mor ffodus fel mam-gu o weld Jansen, fy ŵyr cyntaf anedig, yn mynd i'r cylch chwarae, yr ysgol feithrin, yr ysgol gyfun ac ymlaen i'r coleg.
Roedd yn glyfar, yn synhwyrol ac yn ofalgar, ac ef oedd yr ŵyr, y mab, y nai, y brawd mawr a'r ffrind gorau mwyaf cariadus y gallai unrhyw un ddymuno amdano. Roedd yn ddoniol, yn hapus, ac yn gofalu am ei deulu a'i ffrindiau, ond ei fam oedd ei fyd.
Roedd yn mentro allan i'r byd mawr i wireddu ei freuddwydion ac i ofalu amdani hi, gan wybod y byddai dim ond prynu bar o siocled iddi yn ei gwneud hi'n hapus. Roedd yn gwybod bod cariad a theulu yn bwysicach nag arian, a byddai bob amser yn rhoi'r hyn a gâi yn ôl i bawb.
Roedd bob amser yno i'w ffrindiau a'i deulu ac yn fachgen hapus ei fyd na fyddai byth yn dal dig. Roedd bob amser yn fy ngwneud i wenu a chwerthin, ac roeddwn bob amser yn falch ohono, hyd y diwedd.
Er fy mod wedi gafael yn dy law am y tro olaf Jans, byddi di yn fy nghalon am byth, a chawn gwrdd eto. Caru ti Jans, gan Narnie, neu Narnia fel y byddet yn fy ngalw.
Alice, ei fodryb:
'Handsome Jansen', neu Janison fel y byddem ni'n ei alw'n ddyddiol er mwyn tynnu ei goes. Cafodd Jansen ei gymryd yn drasig oddi wrthym yn llawer rhy gynnar, dim ond yn ddeunaw oed, wrth wneud yr hyn roedd yn ei fwynhau fwyaf, sef beicio. Roedd yn fachgen athletaidd iawn, yn ymfalchïo yn ei edrychiad a bob amser ar gefn ei feic. Roedd yn fwy na'r person perffaith; roedd yn hael, yn hoffus, yn ofalgar, ac roedd ganddo galon aur. Ef oedd nai cyntaf anedig y chwech ohonom, babi cyntaf y teulu. Yr hynaf i'w lu o gefndryd, a'r brawd hynaf. Cawsom y fraint o wylio Jansen yn tyfu ac yn cyflawni pob carreg filltir anhygoel yn ei fywyd byr iawn.
Doedd gan neb air drwg i'w ddweud amdano, a byddai pawb bob amser yn dweud pa mor gwrtais a golygus ydoedd. Ni fyddai byth am fod yn boen i neb, ac ef fyddai'r cyntaf i gynnig help llaw bob amser, p'un a oedd ei angen ai peidio.
Ni fyddaf byth yn deall y ffaith nad yw yma gyda ni mwyach, ond rwyf yn deall ei fod yn llawer rhy dda i'r byd hwn. Rydym yn colli ac yn galaru am Jansen yn fwy nag y gall geiriau ei fynegi, a byddwn i'n gwneud unrhyw beth i gael gwrando ar y llais dwfn hwnnw yn ystod ein sgyrsiau niferus, ond rydym yn gwybod ei fod mewn lle llawer gwell na'r byd trasig hwn. Rydym i gyd mor falch ohono. Jansen, rydyn ni'n dy garu ac yn dy golli di gymaint. Gorffwys mewn hedd, yn ddeunaw am byth.
Tad (Jason Phillips):
"Jansen oedd fy unig fab ac roedd yn berffaith ymhob ffordd; roedd yn garedig ac yn ystyriol, ac yn frawd mawr perffaith. Roedd Jansen yn addoli ei frodyr a chwiorydd i gyd. Mae Jansen yn gadael dwy chwaer Sailor a Kiki, yr oedd yn eu haddoli'n llwyr.
Jansen oedd fy mab, fy ffrind gorau. Mae ein calonnau wedi'u chwalu'n deilchion."
Ei fam-gu a'i dad-cu (Rita a Ross):
Roedd Jansen yn ŵyr hyfryd. Roedd yn ddyn ifanc swil a thawel, gyda chalon aur. Roedd yn chwarae rôl bwysig ym mywydau ei frodyr a'i chwiorydd, ac yn fodel rôl anhygoel iddynt. Roedd yn addoli ei frodyr a'i chwiorydd yn llwyr, ac roedden ni'n ei addoli ef.
Ei fodrybedd a'i ewythr (Jo, Clare a John):
“Roedd Jansen yn ddyn ifanc anhygoel. Ef oedd ein nai hynaf, ac roedd yn dod â chymaint o gariad a phleser i'n bywydau. Roedd yn addfwyn, yn garedig ac yn ofalgar. Cafodd Jansen ei gymryd oddi wrthym yn llawer rhy gynnar. Mae ein calonnau wedi'u rhwygo'n ddarnau, ac ni fydd ein bywydau byth yr un fath eto."
Mae ein swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2300429957.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📧 E-bost [email protected]
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Neu 📞Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111