Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar gyda chyfnod trwydded estynedig o dair blynedd, yn dilyn marwolaeth Luke Higgins yn Butetown, Caerdydd.
Cafodd David Smith, a gyflawnodd ddynladdiad, ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Gwener, 5 Ionawr).
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad difrifol ar Stryd Hansen tua 4.30am ddydd Iau, 14 Medi, 2023.
Cafodd Luke Higgins, 40 oed, o Butetown, ei anafu'n ddifrifol a'i gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle bu farw ddydd Sadwrn, 16 Medi.
Cyn marwolaeth Mr Higgins, cafodd David Smith, 43 oed, hefyd o Butetown, ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol ond yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei gyhuddo o ddynladdiad.
Plediodd yn euog ar 27 Tachwedd a dychwelodd i'r llys heddiw i gael ei ddedfrydu.
Bydd Smith yn y carchar am ddwy ran o dair o'i ddedfryd o leiaf cyn y bydd yn gymwys am barôl.
Ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Lianne Rees, o Heddlu De Cymru:
“Rwy'n meddwl am deulu a ffrindiau Luke wrth iddynt barhau i ddod i delerau â'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.
“Roedd Luke yn dad, brawd ac ewythr annwyl iawn sy'n cael ei golli'n fawr gan ei deulu.
Mae'r achos trychinebus hwn yn pwysleisio sut y gall un ergyd ladd a sut y gall un ergyd ddinistrio bywydau cynifer o bobl.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i gymuned Butetown a gefnogodd yr ymchwiliad hwn.”
Darparodd merch Luke, Nikita Chick a'i nith, Amber Dacruz, Ddatganiadau Personol Dioddefwyr i'r llys.
Dywedodd Nikita:
“Mae marwolaeth fy nhad wedi llorio a thorri calonnau ei deulu a phawb yr oedd yn ei adnabod.
“Ni fydd byth yn cael y cyfle i gwrdd â'i ddarpar wyrion. Ni fydd byth yn gallu fy ngherdded at yr allor na fy ngweld i'n priodi. Ni fydd ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol fyth yn cael eu cyflawni.”
Dywedodd ei nith, Amber:
“Mae marwolaeth Luke wedi gadael bwlch yn ein calonnau, na fydd byth yn cael ei lenwi. Roedd yn fab, tad, brawd, ewythr a ffrind i lawer.
“Fel teulu, mae rhywbeth fel picio i mewn i ganol tref Caerdydd bellach yn brifo oherwydd rydym yn gwybod na fyddwn ni byth yn gweld Luke eto.
“Gan wybod na fyddwn ni byth yn gweld ei enaid caredig, yn clywed ei straeon nac yn ei glywed yn canu wrth chwarae ei gitâr byth eto.
“Y cyfan y gallwn ni obeithio amdano nawr yw cyfiawnder.
“Roedd pob un ohonom, a llawer o bobl eraill yn caru Luke, a bydd yn ein calonnau am byth.”