Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am fwy na phedair blynedd am droseddau terfysgaeth ar ôl rhannu clipiau fideo propaganda asgell dde eithafol.
Ymddangosodd Kristen Persen, 22 oed o'r Tyllgoed yng Nghaerdydd, gerbron Llys y Goron Bryste ddoe, lle cafodd ddedfryd o bedair blynedd ac wyth mis. Cafodd ei orchymyn i dreulio o leiaf dwy ran o dair o'i ddedfryd yn y carchar.
Roedd Persen wedi ymddangos gerbron y llys fis diwethaf lle plediodd yn euog i 10 cyhuddiad; chwe achos o dan Adran 2 o Ddeddf Terfysgaeth 2006 (rhannu deunydd terfysgaeth) a phedwar achos dan Adran 58 o Ddeddf Terfysgaeth 2000 (casglu gwybodaeth am derfysgaeth).
Cafodd ei arestio mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd ar 30 Tachwedd 2022 yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Uned Gwrthderfysgaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr ac Uned Gwrthderfysgaeth Cymru.
Ar ei liniadur, daeth ditectifs o hyd i lyfrau cyfarwyddyd a llawlyfrau ar gyfer cynhyrchu arfau tanio, ffrwydron a thanwyr yn ogystal â phropaganda yn gysylltiedig â goruchafiaeth pobl wyn. Daethpwyd hefyd o hyd i ddeunydd a oedd yn clodfori sefydliadau asgell dde eithafol gwaharddedig yn ymwneud â Natsïaeth, hiliaeth, ac ideoleg gwrth-Semitiaeth.
Yn ogystal, canfuwyd amrywiaeth helaeth o ddillad, baneri a sticeri yn dangos ac yn cefnogi safbwyntiau asgell dde yn ei gyfeiriad.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd dros dro, Anastasia Miller, o Uned Gwrthderfysgaeth Gorllewin Canolbarth Lloegr:
“Rydym yn gweithio'n ddiflino i sicrhau euogfarnau ar gyfer unigolion fel Persen, sy'n peri bygythiad sylweddol i gymunedau ledled y wlad.
“Mae eithafwyr yn defnyddio'r math hwn o ideoleg i achosi anghydfod, amheuaeth ac ofn yn ein cymunedau ac rydym yn anelu at eu trechu. O ganlyniad i'r ymchwiliadau hyn, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr unigolion asgell dde a gaiff eu hatgyfeirio at ein rhaglen Atal.
“Mae ein hymdrechion rhagweithiol i fynd i'r afael â'r bygythiad sy'n gysylltiedig â therfysgaeth asgell dde eithafol yn parhau.”
Nododd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru:
“Rydym yn croesawu canlyniad y broses yn y llys, sy'n deillio o ymchwiliad hir a hynod fanwl a gynhaliwyd ar y cyd rhwng swyddogion Gwrthderfysgaeth yng Nghymru ac yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.
“Mae'n dangos yn glir fanteision a chryfderau cydweithredu wrth ymchwilio i achosion sy'n aml yn gymhleth iawn. Mae diogelwch y cyhoedd wrth wraidd popeth a wnawn, ac mae ein swyddogion a'n staff yn gwneud ymdrech sylweddol i fodloni'r amcan hwnnw. Mae'r canlyniad yn ein helpu i sicrhau y gallwn barhau i wneud hynny."
Bob blwyddyn, mae miloedd o adroddiadau gan y cyhoedd yn helpu'r heddlu i fynd i'r afael â'r bygythiad terfysgol. Os byddwch yn gweld neu'n clywed rhywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy roi gwybod i'r heddlu yn gyfrinachol yn gov.uk/ACT.
Ni fydd rhoi gwybod yn difetha bywydau – gallai eu hachub. Mae gweithredu yn trechu terfysgaeth. Cofiwch, dylech bob amser ffonio 999 mewn argyfwng.