Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ychydig cyn 8.30pm ddydd Gwener (19 Ionawr), cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mawr mewn eiddo ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd yr adeilad ei wagio'n ddiogel ac nid oes unrhyw adroddiadau am unrhyw anafiadau.
Mae'r tân wedi'i ddiffodd erbyn hyn a bydd ymchwiliad llawn i'r digwyddiad yn cael ei gynnal cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Mae'r ffyrdd lleol yn parhau i fod ar gau a gofynnir i aelodau'r cyhoedd osgoi'r ardal, yn enwedig o ystyried y rhagolygon am wyntoedd cryfion.
Mae ymdrechion hefyd wedi dechrau i alluogi safleoedd cyfagos i ddychwelyd i fusnes fel arfer pan fydd yr ardal yn ddiogel.
Diolch i'r busnesau lleol a'r cyhoedd am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni ddelio â'r digwyddiad hwn.
Mae swyddogion yr heddlu sy'n ymchwilio i'r digwyddiad wedi gwneud arestiad.
Mae dyn lleol 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Mae'n cael ei gadw yng ngorsaf heddlu Queen's Road, lle mae'n cael ei holi.
Mae ditectifs yn apelio at unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn i gysylltu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2400022352.
Ewch i:
💬 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
📞 101
📞 Ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111