Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae marcwyr what3words wedi cael eu gosod ar hyd Llwybr Arfordirol Bro Morgannwg er mwyn galluogi'r gwasanaethau brys i ddod o hyd i gerddwyr sydd ar goll, pobl sydd wedi'u hanafu, unigolion coll, neu'r rheini mewn trafferth yn gyflymach.
System gyfeiriadau tri gair yw what3words a ddefnyddir mewn 170 o wledydd ledled y byd a chan wasanaethau brys y DU, gan gynnwys Heddlu De Cymru.
Os bydd rhywun yn darparu'r cyfeiriad what3words wrth iddynt roi gwybod am ddigwyddiad, gall y gwasanaethau brys ddefnyddio'r tri gair hynny i ganfod eu hunion leoliad.
Diolch i waith partneriaeth rhwng Heddlu De Cymru, Arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg, Cyngor Bro Morgannwg, Sefydliad Cenedlaethol Gwylio'r Arfordir, Gwylwyr y Glannau a'r RNLI, mae marcwyr bellach wedi'u gosod ar 25 o byst pren rhwng Aberogwr a Monknash.
Mae'r prosiect hefyd wedi cael ei gefnogi gan Ruth Dodsworth, preswylydd lleol a chyflwynydd teledu ITV Wales.
Dywedodd PCSO Rhiannon Cummings, o Dîm Plismona yn y Gymdogaeth Bro Morgannwg, Heddlu De Cymru:
"Gall fod yn anodd iawn i'r gwasanaethau brys leoli pobl sydd wedi'u hanafu ar hyd yr arfordir am fod y tir yn arw ac yn eang.
"Drwy ddarparu'r what3words, bydd modd dod o hyd yn gyflymach i bobl y mae angen cymorth brys arnynt, yn enwedig gyda'r nos pan y gall chwilio'r ardaloedd hyn fod yn beryglus.
"Mae Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi dweud y bydd y wybodaeth hon a map o'r pyst yn amhrisiadwy wrth chwilio am bobl ar hyd yr arfordir."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ben Rowe, o uned Diogelu'r Cyhoedd, Heddlu De Cymru:
“Yn ogystal â bod o fudd i ymwelwyr wrth eu cyfarwyddo ar hyd y darn hwn o'r arfordir, bydd yr arwyddion hyn hefyd yn gwella gallu'r gwasanaethau brys i ddod o hyd yn gyflym i unigolyn sydd wedi'i anafu, neu wybod ble i ddechrau chwilio am rywun sydd ar goll."
Dywedodd y Cynghorydd Bronwen Brooks, Aelod o'r Cabinet ar gyfer Lleoedd Cynaliadwy, Cyngor Bro Morgannwg:
"Rydym yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r prosiect hwn. Mae'r arfordir treftadaeth yn denu nifer mawr o ymwelwyr pob blwyddyn. Mae'n wych y gall technoleg fel hon gael ei defnyddio i wella eu profiad a helpu pobl i fwynhau'r llwybrau arfordirol yn ddiogel."
Dywedodd Phil Styles, Ysgrifennydd Cyffredinol a Dirprwy Gadeirydd Sefydliad Cenedlaethol Gwylio'r Arfordir (NCI):
"Ar ran Sefydliad Cenedlaethol Gwylio'r Arfordir Rhanbarth Cymru, hoffwn eich llongyfarch chi oll ar y fenter hynod syml ond effeithiol hon i osod marcwyr what3words ar arwyddion llwybr arfordirol Bro Morgannwg.
"Mae deall yn union ble mae unigolyn pan fo argyfwng neu drafferth arall yn helpu'r timau chwilio ac achub i fynd â'r help a'r cyfarpar angenrheidiol i'r pwynt hwnnw'n gyflym ac yn effeithlon.
"Pan fydd pobl mewn trafferth neu'n dod o hyd i rywun mewn trafferth, byddant yn aml yn dechrau drysu a gall hyn arwain at rannu gwybodaeth sy'n anghywir. Weithiau hefyd, efallai na fydd ganddynt unrhyw wybodaeth leol am yr ardal.
"Gall rhywbeth mor syml â gofyn iddynt edrych ar arwyddbost y llwybr arfordirol a darllen y marciwr what3words yn uchel, helpu i osgoi unrhyw ddryswch am y lleoliad a helpu i achub bywydau.
"Mae'r ddwy orsaf NCI, sydd wedi'u lleoli yn Sain Dunwyd a Phorthcawl, yn falch iawn o fod yn rhan o'ch fforwm amlasiantaethol."
Mae'r ap what3words ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar gyfer iOS ac Android ac mae'n gweithio'n gyfan gwbl all-lein – sy'n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer ardaloedd yn y DU sydd â chysylltiad data annibynadwy, megis traethau, parciau cenedlaethol, a gwersyllfeydd.
Gall what3words hefyd gael ei ddefnyddio drwy'r map ar-lein ar what3words.com. Mae'r ap ar gael mewn dros 45 o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg, a gellir ei ddefnyddio unrhyw le yn y byd.