Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddydd Mawrth 9 Ionawr, dedfrydwyd Joshua Edwards, 31 oed o Aberaman, Aberdâr, i 12 mlynedd o garchar yn Llys y Goron Merthyr
Cafodd ei garcharu am ddau achos o Niwed Corfforol Difrifol ac am gario arf ymosodol yn erbyn Kevin Boggis, 52 oed, o Odreaman, Aberdâr.
Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Cobden, Aberdâr, am tua 4.10pm ddydd Llun 17 Ebrill yn dilyn adroddiadau o drywanu. Daethant o hyd i Kevin ar y llawr ar ôl cael ei drywanu dair gwaith, gan gynnwys unwaith yn ei frest, unwaith yn ei stumog ac unwaith ar ben ei goes chwith. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru mewn ambiwlans awyr oherwydd natur ei anafiadau, sydd wedi newid ei fywyd yn dilyn yr ymosodiad.
Gwnaeth swyddogion arfog ymholiadau yn yr ardal ynghyd â swyddogion lleol a'n hadran gŵn, ac yn gyflym daeth i'r amlwg mai Joshua Edwards oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Roedd Kevin wedi mynd i gartref yr unigolyn dan amheuaeth i siarad â Joshua Edwards yn dilyn ffrae gynharach rhwng Joshua Edwards a mam Kevin, sy'n 74 oed, lle roedd Joshua wedi bod yn ymosodol ar lafar ac yn fygythiol tuag ati. Yn syml, roedd Kevin am gael sgwrs â Joshua Edwards am ei ymddygiad tuag at ei fam. Fodd bynnag, pan oedd yn cerdded yn ôl i'w gyfeiriad cartref o gartref Joshua, dilynodd Joshua ef a'i daro â bat pêl-fas a dorodd ei fraich ac yna ei daro i'r llawr. Tra roedd ar y llawr, gwnaeth Joshua Edwards ei drywanu dair gwaith. Er gwaetha ei anafiadau, llwyddodd Kevin i gael y bat pêl-fas allan o ddwylo Joshua Edwards. Gwnaeth Joshua Edwards ei heglu hi.
Yn ffodus i Kevin, daeth aelodau o'r cyhoedd ac aelodau teulu i'w helpu nes i'r gwasanaethau brys gyrraedd y fan a'r lle.
Dywedodd Kevin: “Hoffwn ddiolch yn fawr i Heddlu De Cymru ac i'r holl swyddogion a ddaeth a rhoi CPR i mi, ac i'r Ditectifs a roddodd achos cryf at ei gilydd yn erbyn Joshua Edwards. Diolch i'r Swyddog a oedd yn Gyfrifol am yr achos am yr holl gefnogaeth a roddodd i mi a fy nheulu drwy gydol yr ymchwiliad.
“Ar ben hynny, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Ambiwlans Awyr Cymru am weithredu mor gyflym i helpu i achub fy mywyd. Byddaf yn ddiolchgar am byth. “
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Joel Rees: "Roedd hwn yn ymosodiad ffyrnig a direswm ar Kevin, sydd wedi cael anafiadau sydd wedi newid ei fywyd. Mae'r effaith y cafodd yr ymosodiad hwn arno yn parhau hyd heddiw.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn ei alluogi i ddechrau dod i delerau â'r digwyddiad ac i symud ymlaen o'r profiad, gan wybod bod Joshua Edwards yn cael ei gosbi am ei drosedd.”
Gall digwyddiadau sy'n ymwneud â chyllyll arwain at ganlyniadau erchyll. Nid yw troseddau cyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, ond rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw gweithredu i atal problem rhag codi.
https://www.nottheone.co.uk/cy/