Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth yn dilyn treial yn Llys y Goron Abertawe ar ôl marwolaeth Georgina Dowey, 46 oed, yn ei gyfeiriad yn Llangatwg, Castell-nedd y llynedd.
Plediodd Matthew Pickering, 49 oed o Beaconsfield Street, yn euog i ddynladdiad ond gwadodd lofruddiaeth ar ôl i gorff Georgina gael ei ddarganfod gan yr Heddlu yn ei ystafell ymolchi ar lawr gwaelod y cyfeiriad ddydd Sul 7 Mai 2023.
Roedd y dioddefwr, a oedd yn unigolyn agored i niwed, mewn perthynas â Pickering, ac roedd wedi symud i mewn i'w gyfeiriad ym mis Mawrth 2023.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Butt:
“Cafodd y camau a gymerodd Matthew Pickering i geisio osgoi cael ei ddal eu recordio'n rhannol ar fideo teledu cylch cyfyng.
“Y tro diwethaf y gwelwyd Georgina yn fyw oedd ddydd Gwener 5 Mai. Cafodd ei llofruddio naill ai'n ddiweddarach y noson honno neu yn oriau mân y bore canlynol.
“Treuliodd tua 40 awr yn ceisio celu ei weithredoedd tra roedd corff Georgina ar y llawr yn y toiled ar lawr gwaelod ei gartref.
“Ddydd Sadwrn 6 Mai, anfonodd y neges destun ganlynol i ffôn Georgina: ‘Did you make it to Merthyr ok? x’. Anfonodd y neges hon gan wybod yn iawn bod ei chorff yn ei gartref.
“Am 16:31 y prynhawn hwnnw, aeth i'r siop gornel ar ei stryd i brynu cannydd. Byddai'n honni'n ddiweddarach ei fod wedi prynu'r cannydd am fod ‘ei gath yn chwarae yn y gwaed ar lawr yr ystafell fyw’ a bod angen iddo ei lanhau.
“Hefyd, cafodd wared ar dystiolaeth allweddol drwy roi eitemau mewn biniau yn yr ardal leol, gan gynnwys eitemau y daethpwyd o hyd iddynt mewn bin baw ci. Roedd gan Georgina ddau ffôn symudol – na chanfuwyd yr un o'r ddau – a chredir bod Matthew Pickering wedi cael gwared arnynt.
“Datgelodd yr hyn yr oedd wedi'i wneud i aelodau o'i deulu y diwrnod canlynol.
“Rwy'n parhau i feddwl am aelodau o deulu Georgina sydd wedi torri eu calonnau am yr hyn sydd wedi digwydd, yn ddealladwy.
“Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned leol a thystion am eu cymorth gyda'r ymchwiliad hwn.”
Mae mynd i'r afael â thrais domestig a thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth amlwg i'r heddlu ac rydym yn annog unrhyw un sy'n dioddef trais domestig i gysylltu ac i siarad â'r heddlu.
Mae Matthew Pickering bellach yn aros am ei ddedfryd.