Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a ddenodd menyw i mewn i'w gerbyd drwy esgus bod yn yrrwr tacsi, cyn cloi'r drysau ac ymosod arni'n rhywiol, wedi cael ei garcharu.
Mae Andras Jancso, 45 oed o Lanelli, wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Gwener 12 Ionawr 2024) am herwgipio ac ymosod yn rhywiol.
Yn ystod oriau mân bore Sul 2 Gorffennaf 2023, roedd y dioddefwr yn ceisio mynd adref ar ôl noson allan gyda ffrindiau yn Abertawe. Aeth i mewn i'r hyn yr oedd yn credu ei fod yn dacsi – roedd y cerbyd wedi parcio mewn ardal safle tacsis a ddefnyddir gan yrwyr tacsis trwyddedig – a gofynnodd iddo fynd â hi i'w chyfeiriad cartref.
Fodd bynnag, dim ond esgus bod yn yrrwr tacsi oedd Andras Jancso, sef gyrrwr y cerbyd. Ar ôl newid y llwybr disgwyliedig yn ôl i gyfeiriad cartref y dioddefwr, clôdd y drysau i'w hatal rhag dianc ac ymosododd arni'n rhywiol.
Defnyddiodd y dioddefwr ei ffôn symudol i ffonio ei ffrind a rhannu ei lleoliad â hi, yn ogystal â chymryd fideo o sedd flaen y cerbyd – a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i'w helpu i adnabod ei hymosodwr. Ar ôl gwrthod sylw digroeso Jancso, llwyddodd yn y pen draw i'w berswadio i'w gollwng ychydig i ffwrdd o'i chartref fel na fyddai'n darganfod ble mae hi'n byw.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Abi Doxsey, a arweiniodd yr achos:
"Yn yr achos hwn, rhaid talu teyrnged i ddewrder y dioddefwr. Roedd hi'n eithriadol o ddewr yn ystod y treial – gan fynychu mewn person heb unrhyw fesurau arbenigol – a helpodd i ddod o hyd i'w hymosodwr, a oedd yn ddieithryn iddi hi.
"Oni bai am ei greddf ar adeg y drosedd, ni fyddem wedi gallu adnabod y troseddwr. Mae hi'n haeddu canmoliaeth enfawr am yr hyn a lwyddodd i'w wneud i sicrhau cyfiawnder am yr hyn a wnaeth Andras Jancso.
"Mae person peryglus dros ben bellach oddi ar ein strydoedd."