Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhwng Rhagfyr 1,2023, a Ionawr 1, 2024, cynhaliodd ein swyddogion 3,145 o brofion anadl a 203 o brofion cyffuriau fel rhan o'r Ymgyrch Limit cenedlaethol.
Canfuwyd bod 157 o yrwyr dros y terfyn yfed a gyrru, a chafodd 87 o'r rheini a brofwyd am gyffuriau ganlyniad positif.
Dywedodd Michael Prickett, Arolygydd Plismona Ffyrdd:
"Rwy'n falch iawn o'm swyddogion am eu gwaith yn tynnu'r gyrrwyr hyn oddi ar y strydoedd.
"Roedd hwn yn gyfnod eithriadol o brysur, gyda chynnydd o 2.6% mewn arestiadau yn sgil gyrru dan ddylanwad alcohol, a chynnydd o 70% mewn arestiadau yn sgil gyrru dan ddylanwad cyffuriau ers 2022.
"Yn anffodus, mae llawer o bobl yn parhau i ddewis gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, a chaiff hyn effaith ddinistriol ar gymunedau ac unigolion.
"Er bod cyfnod y Nadolig drosodd, bydd swyddogion yn parhau i fynd ar ôl y rheini sy'n benderfynol o dorri'r gyfraith.
“Os canfyddir eich bod dros y terfyn ar gyfer yfed a gyrru, a/neu eich bod yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, gallwch gael cofnod troseddol yn ogystal â dedfryd o hyd at chwe mis yn y carchar, dirwy ddiderfyn, a chael eich gwahardd yn awtomatig rhag gyrru am flwyddyn o leiaf.”
Dylech bob amser holi eich meddyg neu eich fferyllydd os ydych yn ansicr a fydd eich presgripsiwn neu eich meddyginiaeth dros y cownter yn effeithio ar eich gallu i yrru.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am unrhyw un y credir eu bod yn gyrru dan ddylanwad i gysylltu â'r heddlu ar 101 (neu 999 os ydynt yn achosi perygl uniongyrchol), neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.