Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd timau plismona ar batrôl y gaeaf hwn mewn mannau lle mae bywyd nos er mwyn targedu trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Bydd timau gweladwy a dillad plaen Heddlu De Cymru yn gweithredu mewn trefi a chanolfannau gan gynnwys Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, a Chaerdydd i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a throseddau eraill.
Mae Heddlu De Cymru yn atgoffa pawb i roi gwybod am bryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol fel rhan o'i ymgyrch Adrodd i Adfer y gaeaf hwn. Mae adrodd am faterion yn galluogi’r heddlu i gymryd camau priodol, boed hynny drwy drefnu gweithgareddau dargyfeiriol addas, addysgu’r cyhoedd, cynyddu adnoddau mewn ardal neu gymryd camau gorfodi mwy uniongyrchol.
Bydd Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned (CPNs) yn cael eu cyflwyno i ad-gyflawnwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle gellir dangos bod eu hymddygiad wedi cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai yn y gymuned, ei fod o natur barhaus, a'i fod yn afresymol.
Mae camau gweithredu eraill sydd wedi’u targedu y gaeaf hwn yn cynnwys:
Mae Rhingyll James Ponting o Heddlu De Cymru yn cydlynu presenoldeb yr heddlu o amgylch Stryd y Gwynt, Abertawe, gyda phresenoldeb cynyddol yr heddlu mewn lifrai bob nos Fercher, nos Wener a nos Sadwrn tan Nos Galan.
Bydd swyddogion heddlu arbenigol hefyd yn patrolio canol dinas Abertawe mewn dillad plaen i dawelu meddyliau tyrfaoedd y Nadolig trwy fonitro unrhyw un sy'n arddangos ymddygiad sy’n achosi pryder i fenywod, ac yna’n cymryd camau i ymyrryd.
“Mae cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn brysur yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd wrth i bobl fwynhau diod haeddiannol gyda ffrindiau, cydweithwyr a theulu,” meddai Rhingyll Ponting.
“Ond mae rhai pobl yn mynd â phethau’n rhy bell ac yn ymddwyn mewn ffordd sy’n cael effaith andwyol amlwg ar ein cymunedau, nid yn unig yn effeithio ar y rhai sy’n mwynhau noson allan ond hefyd ar y rhai sy’n gweithio yn y sector lletygarwch neu’r gwasanaethau brys.
“Rydym am anfon neges glir na fydd trosedd nac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu goddef.
“Fel rhan o Brosiect Adrodd i Adfer, hoffem atgoffa pawb i adrodd eu pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ar-lein, drwy 101, neu drwy ffonio 999 mewn argyfwng. Mae pob adroddiad o bwys ac yn cynorthwyo’r heddlu i fynd i’r afael â materion yn y modd mwyaf priodol.”