Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd Ashley Davies, 30 mlwydd oed o Stryd Forge, Pentre, yn euog o lofruddiaeth Conall Evans heddiw (Dydd Gwener, 11 Hydref) yn Llys y Goron Merthyr Tudful.
Cafwyd Davies yn euog ar ôl treial deg diwrnod a ddechreuodd ar 30 Medi.
Daethpwyd o hyd i Conall Evans, 30 mlwydd oed, wedi'i anafu'n ddifrifol yn agos i faes parcio Ysbyty Cwm Rhondda yn ystod oriau mân 1 Ionawr, 2024. Bu farw'n fuan wedyn o'i anafiadau – un anaf â chyllell i'w frest.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, yr Arolygydd Dai Butt: "Rwy'n gobeithio y bydd rheithfarn heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i aelodau teulu Conall ac y gallant ddechrau'r broses anodd o symud ymlaen o gyfnod trawmatig iawn yn eu bywydau.
"Mae'r achos hwn yn dangos effaith ddinistriol troseddau cyllyll, sydd bob amser yn bellgyrhaeddol. Ni fydd bywydau neb sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad byth yr un peth.
"Cafodd bywyd Conall ei dorri'n druenus o fyr oherwydd gweithredoedd barbaraidd Ashley Davies, sydd nawr yn wynebu cyfnod sylweddol dan glo.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned a gafodd ei syfrdanu a'i thristáu gan y digwyddiad trasig hwn am ei chefnogaeth drwyddi draw."
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener, 18 Hydref.