Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ein hystafell reoli (sef y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus) wrth galon Heddlu De Cymru. Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i'r rhan fwyaf o bobl sydd, yn aml, ar eu mwyaf bregus.
Mae ein hystafell reoli (sef y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus) wrth galon Heddlu De Cymru. Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i'r rhan fwyaf o bobl sydd, yn aml, ar eu mwyaf bregus.
Ym mhen arall pob galwad a neges a dderbynnir, mae aelod o dîm y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, yn dehongli ac yn asesu gwybodaeth er mwyn rhoi'r ymateb gorau posibl i'r rhai sydd angen help. Mae llawer o'r galwadau hynny'n cynnwys digwyddiadau cymhleth, lle mae ein swyddogion derbyn a throsglwyddo galwadau yn ymdrin ag amgylchiadau erchyll sy'n newid bywyd ond yn parhau i ddarparu gwasanaeth trugarog a phroffesiynol i'r cyhoedd.
Hyd yma eleni, mae staff o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymdrin â mwy na 172,993 o alwadau 999 a mwy na 247,171 o alwadau 101.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Rees, Pennaeth y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Yn ystod Wythnos yr Ystafell Reoli, hoffwn ddiolch am y gwaith anhygoel a wneir gan ein staff yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae'r ffordd y mae ein staff yn ymateb i alwadau am wasanaeth yn y pwynt cyswllt cyntaf yn hollbwysig o ran y ffordd rydym yn cefnogi dioddefwyr, yn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed ac yn dal cyflawnwyr troseddau.
“Rydym yn gwasanaethu ac yn ymateb i'r cyhoedd â medrusrwydd, proffesiynoldeb a thosturi a gall ein staff fod yn hynod o falch yn unigol ac ar y cyd o'r cyfraniad anferthol y maent yn ei wneud i fywydau pobl o ddydd i ddydd.
“Mae ein cydweithwyr yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn hollbwysig i blismona ehangach, ac mae'n fraint cael gweithio gyda chydweithwyr anhygoel ac ymroddedig sy'n gweithio mor galed i gadw De Cymru'n ddiogel.”
Dywedodd Amy, sy'n swyddog Neilltuo yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Rwy'n neilltuo swyddogion i wahanol fathau o alwadau, boed hynny'n argyfwng neu ddim yn argyfwng. Rwyf hefyd yn gyfrifol am ddyrannu'r swyddogion hynny o fewn amserlen benodol ac rwyf hefyd yn edrych ar alwadau, ac yn seiliedig ar y galwadau hynny a gymerwyd, byddaf yn gweld pa adnoddau sydd eu hangen arnom i sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel. P'un a fo hynny'n unedau ymateb, cŵn, hofrenyddion, unedau arfau tanio; Rwyf wrth fy modd yn fy swydd am fy mod yn sicrhau ein bod yn cadw ein cymunedau yn ne Cymru'n ddiogel.”
Rhowch wybod am achosion nad ydynt yn rhai brys drwy'r opsiwn sgwrs fyw ar yr hafan, neu drwy ffonio 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Os byddwch yn ffonio 999 ar ddamwain, peidiwch â rhoi'r ffôn i lawr. Mae ein system yn ein rhybuddio bod ymgais i ffonio 999 wedi'i wneud, a bydd angen i ni ymchwilio o ble y daeth yr alwad. Caniatewch i'r alwad gael ei throsglwyddo a chadarnhau mai damwain oedd hyn.